Part of the debate – Senedd Cymru am 5:42 pm ar 18 Hydref 2017.
Nid ydy’r Gweinidog byth eisiau gwneud cyfraniad i ddadleuon, Llywydd, ond mae’n hapus iawn i’w lais gael ei glywed yma yn Siambr tra mae o ar ei eistedd. Mi wnaf i barhau.
Lle mae yna syniadau neu gynlluniau, fel sydd gennym ni ym Mhlaid Cymru, fel rydym ni’n eu hamlinellu y prynhawn yma, i gryfhau’r gogledd, i annog buddsoddiad, cael gwared ar ddiffyg cydbwysedd rhanbarthol mewn nifer o feysydd, gwneud ein gwaith ar ran ein hetholwyr ydym ni, a dal y Llywodraeth i gyfrif.Rydw i am edrych ar ddau faes roesom ni sylw iddyn nhw yn ein trafodaethau ni ar gyfer ein cytundeb ni efo Llywodraeth Cymru cyn y gyllideb.
Trafnidiaeth yn gyntaf. Mae deuoli’r Britannia yn rhywbeth rydw i wedi galw amdano’n gyson ers cael fy ethol. Nid dim ond ymateb i oedi mewn oriau brig ydy hyn, er mor rwystredig ydy hynny i deithwyr ac i’r rhai sy’n defnyddio’r bont am resymau masnachol, yn hytrach, cam ydy hyn i adeiladu gwytnwch i’r cysylltiadau rhwng y tir mawr a Môn yn yr hir dymor. Dim ond yr wythnos yma mi gafodd pont Britannia ei chau oherwydd gwynt, efo pont Menai yr unig gyswllt ar agor—pont fydd yn dathlu dau ganmlwyddiant o fewn y degawd nesaf. Y bont yw’r bont hyfrytaf gewch chi, ond tynnu’r pwysau oddi arni hi, nid ychwanegu pwysau arni hi, dylem ni fod yn ei wneud yn y dyfodol. Mae yna gyfle yma i sicrhau cysylltiad fydd yn sicrhau llif traffig, rhoi’r sicrwydd i’r gwasanaethau brys mae’n nhw’n gofyn i fi bwyso amdano fo, cyfle i roi sicrwydd i fasnach, a hefyd cyfle rŵan i chwilio am fuddsoddiad y Grid Cenedlaethol ar gyfer cludo gwifrau trydan foltedd uchel ar draws y Fenai. Yn hytrach na gwario efallai £150 miliwn ar wneud twnnel, mi allan nhw wneud cyfraniad a chael arian wrth gefn i fuddsoddi mewn tanddaearu gwifrau ar draws Ynys Môn. Mae pob Aelod etholedig yn Ynys Môn yn cefnogi hynny, ar wahân i Aelod rhanbarthol UKIP. Dyna pam yr oeddem ni’n falch o weld cytundeb y gyllideb yn neilltuo arian i ddatblygu’r cynlluniau ar gyfer y croesiad ymhellach.
Tra’r ydw i ym maes trafnidiaeth, gadewch imi gyfeirio at gysylltiadau’r gogledd efo rhannau eraill o Gymru. Mae Prydain gyfan yn dioddef o’r canoli—pob ffordd, pob rheilffordd yn arwain i Lundain, a gorllewin-dwyrain o hyd ydy’r prif wythiennau trafnidiaeth yng Nghymru. Mae’n bwysig bod yna gysylltiadau cryf rhwng gogledd Cymru a Llundain, mae’n bwysig bod yna gysylltiadau cryf trawsffiniol, ond gadewch i ni gofio hefyd am yr angen i fuddsoddi yn y cysylltiadau trafnidiaeth yna a fydd yn helpu cryfhau economi gynhenid Gymreig, y math o economi, fel y dywedodd Llyr, a fydd yn gallu bod yn bartner efo’r ‘Northern Powerhouse’ ac yn bartner efo’n partneriaid ni hefyd i’r gorllewin yn Iwerddon.
Mi ddefnyddiaf i’r munud sydd gen i ar ôl i dynnu sylw at un maes arall, sef y prinder affwysol o weithwyr iechyd sydd gennym ni yn y gogledd, yn benodol meddygon. Mae Plaid Cymru wedi cyflwyno cynnig a allai helpu mynd i’r afael â hyn, sef sefydlu canolfan addysg feddygol ym Mangor. Rydym ni’n gwybod bod yna batrwm o feddygon yn tueddu setlo i weithio lle maen nhw wedi cael eu hyfforddi. Rywsut, rydym ni angen darparu mwy o feddygon sydd wedi eu gwreiddio yn y Gymru wledig, wedi datblygu arbenigedd efallai mewn meddygaeth wledig, ac sy’n ymroddedig i weithio yn y Gymru wledig ac yn y gogledd yn benodol hefyd. Mae yna gyfle, rydw i’n meddwl, drwy’r ganolfan addysg newydd yma, i ddarparu hynny mewn partneriaeth, rydw i’n gobeithio, efo Caerdydd ac Abertawe. Mae yna sôn am symud mwy o fyfyrwyr o Gaerdydd ac Abertawe. Rydym ni’n gwybod bod rhai dan hyfforddiant yn mynd ar ‘rotations’ o gwmpas Cymru, ond mae’n rhwystr i bobl sydd ddim yn dymuno gwneud y teithio de-gogledd yna. Mae’n rhwystr iddyn nhw i ddod i astudio o fewn y gyfundrefn Gymreig. Felly, beth am gryfhau’r addysg feddygol sydd yna yn y gogledd?
Felly, mewn addysg feddygol, mewn trafnidiaeth, mewn datblygu economaidd, nid yn unig y mae angen tegwch, mae angen sicrhau cydraddoldeb cyfle ac mae’n rhaid i bobl y gogledd allu gweld mai dyna’r realiti.