Part of the debate – Senedd Cymru am 6:08 pm ar 18 Hydref 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau i’r ddadl heddiw. Rwy’n hynod o falch o ogledd Cymru a’r economi ddynamig, flaengar sydd ganddi: canolfannau gweithgynhyrchu uwch yng ngogledd Cymru, sector twristiaeth ffyniannus, sector bwyd a diod llwyddiannus, darparwyr sgiliau rhagorol; maent i gyd yn cyfrannu at ran hynod ffyniannus o Gymru, un yr ydym am ei gweld yn cael ei datblygu yn y blynyddoedd i ddod, ond un sydd wedi ei hadeiladu ar gryfderau a galluoedd sy’n bodoli’n barod.
Gyda llaw, rwy’n meddwl y dylwn dynnu sylw at y ffaith bod WorldSkills yn cael ei gynnal ar hyn o bryd yn y dwyrain canol. Ceir oddeutu 30 o gystadleuwyr o’r DU yno ac rwy’n falch o ddweud bod dau ohonynt yn dod o Gymru: mae dau ohonynt yn dod o Goleg Cambria yng ngogledd Cymru. Mae’r ddau’n cynrychioli galwedigaethau yn y sector gweithgynhyrchu uwch. Mae un yn byw ym Manceinion, un yn byw yng Nghymru ac mae’r ddau’n gweithio yng ngogledd Cymru, gan gyfrannu at y sector ac at yr economi ranbarthol. Rwy’n falch o ddweud hefyd fod allbwn economaidd ac incwm aelwydydd yng ngogledd Cymru yn uwch na’r cyfartaledd yng Nghymru. Mae hyn yn dangos bod economi’r rhanbarth yn fywiog, yn gryf, ond nid ydym yn dymuno gorffwys ar ein rhwyfau a byddwn yn buddsoddi’n drwm yn y rhanbarth yn ystod y blynyddoedd i ddod.
O Wylfa i Airbus, o Zip World i Chetwood Financial, mae gennym rai o’r gweithwyr medrus gorau, mae gennym rai o’r atyniadau mwyaf a’r rhagolygon mwyaf disglair yn y DU. Ac rwy’n dweud hyn i gyd oherwydd fy mod yn credu ei bod yn rhy hawdd mewn dadleuon fel hon i ganolbwyntio ar y pethau negyddol. Rydym yn canolbwyntio’n briodol ar yr hyn y gallwn ei wneud yn well, ond anaml y byddwn yn rhoi eiliad i fyfyrio mewn gwirionedd ar yr hyn yr ydym yn ei wneud yn dda iawn. Ac felly hoffwn ddechrau fy nghyfraniad drwy sôn am y pethau cadarnhaol, ac rwy’n meddwl bod hanfodion economi gogledd Cymru yn gryf. Ein tasg yn awr yw edrych ymlaen ac adeiladu ar gryfderau’r rhanbarth, hyrwyddo gogledd Cymru a chryfhau ei hyder, yn hytrach na throi’r gogledd yn erbyn rhannau eraill o’n gwlad.
Rwy’n falch o’r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud i gefnogi llwyddiant gogledd Cymru dros y blynyddoedd diwethaf. Mae portffolio buddsoddi ein rhaglen lywodraethu yng ngogledd Cymru yn hynod uchelgeisiol—yn llawer iawn mwy uchelgeisiol nag yn ystod y cyfnod y daliai Aelod o Blaid Cymru liferi’r economi a’r seilwaith. Ar draws y rhanbarth, mae gennym gynlluniau ar gyfer buddsoddi mewn 78 o gynlluniau, cyfanswm buddsoddiad cyfalaf o dros £1 biliwn ar gyfer gogledd Cymru. Yn sicr, nid arian bach yw hwnnw. Rydym yn buddsoddi £0.25 biliwn yng nghoridor Glannau Dyfrdwy, neu goridor Sir y Fflint fel y mae fy nghyd-Aelod Hannah Blythyn yn gywir i’w alw, i fynd i’r afael â’r tagfeydd cronig—tagfeydd cronig a waethygodd, rwy’n ofni, pan benderfynodd Gweinidog blaenorol ganslo’r prosiect. Rydym yn creu sefydliad gweithgynhyrchu uwch ac ymchwil i ddarparu cefnogaeth weddnewidiol i gwmnïau gweithgynhyrchu allweddol, a allai greu cynnydd o £4 biliwn yn yr economi ranbarthol. Ac rydym yn buddsoddi £50 miliwn er mwyn bwrw ymlaen â cham cyntaf metro gogledd-ddwyrain Cymru. Fel y gŵyr yr Aelodau, rydym yn creu M-SParc yn y gogledd-orllewin, rydym yn lleoli pencadlys Banc Datblygu Cymru yn y gogledd-ddwyrain, ac mae Llywodraeth Cymru wedi arwain y ffordd drwy bwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod cysylltiadau rheolaidd a hygyrch o HS2 i mewn i ogledd Cymru er mwyn cefnogi’r economi, a byddwn yn gofyn i Aelodau’r gwrthbleidiau a ydynt wedi gwneud fel y gwnaethom ni, sef annog Llywodraeth y DU i gefnogi senario 3.
Fel yr amlinellais ym mis Mawrth, rydym yn symud ymlaen i ddatblygu trydedd groesfan dros afon Menai, ac rwy’n credu, fel y dywedodd Hannah Blythyn, fod angen edrych yn aeddfed ar sefyllfa economi gogledd Cymru a datblygu agenda strategol ar gyfer y rhanbarth sy’n datblygu’r cyfleoedd trawsffiniol sylweddol sydd gennym i sicrhau bod y rhanbarth yn chwarae rhan fwy ym Mhwerdy Canolbarth Lloegr a Phwerdy Gogledd Lloegr. Mae’n ffaith bod gwerth ychwanegol gros gogledd Cymru a rhanbarth y Mersi a’r Ddyfrdwy yn fwy na hanner economi Cymru gyfan. Roedd Hannah Blythyn yn gywir i ddweud ei bod hi’n anodd teithio o Ddelyn i Gaerdydd mewn llai o amser nag y cymer i deithio o Ddelyn i Lundain, ond y gwir amdani yw ei bod yn cymryd llai nag awr bellach i deithio o Ddelyn i Lerpwl, o Ddelyn i Fanceinion, neu o Ddelyn i Gaer, ac mae’n rhaid cydweithio’n drawsffiniol, ac mae’n sicr yn ddymunol ar gyfer gwella ein lles economaidd. Am y rheswm hwnnw, mae Llywodraeth Cymru wedi chwarae rhan flaenllaw, gyda’n partneriaid yng ngogledd Cymru ac ar y ddwy ochr i’r ffin, yn datblygu cynigion ar gyfer bargen dwf gogledd Cymru. Mae’n cael budd ychwanegol o fargeinion sy’n cael eu ffurfio dros y ffin yng ngogledd-orllewin a chanolbarth Lloegr. Ac rwyf wedi bod yn glir iawn fod yn rhaid i unrhyw gytundeb twf gael ei ddefnyddio i ddod â Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru at ei gilydd gyda diben a rennir i fanteisio ar botensial strategol y rhanbarth, gyda ffocws di-baid ar wella cynhyrchiant, gwella sgiliau a gwella seilwaith, gyda gofynion Growth Track 360 yn ganolog i unrhyw fargen. Er mor adeiladol y gallai cyfraniad Mark Isherwood fod wedi bod heddiw, rwy’n credu bod cael ei feistri gwleidyddol yn Llundain i fynd i’r afael â thanariannu cywilyddus—cywilyddus—ein rheilffyrdd yn llawer mwy buddiol i ogledd Cymru.
Er mor wych yw gogledd Cymru, fodd bynnag, rydym wedi wynebu heriau yn y cyfnod diweddar. Y llynedd, fe wnaethom ymyrryd i gefnogi ein diwydiant dur, gan gynnwys y gwaith pwysig yn Shotton, drwy sicrhau bod dros £60 miliwn o gymorth ar gael i Tata i gadw swyddi dur a chynhyrchiant dur yma yng Nghymru. Mae ein buddsoddiad yn helpu’r gwaith yn Shotton i ddatblygu dyfodol cynaliadwy ac yn ei dro, mae’n helpu’r gymuned i wneud cyfraniad hanfodol a bywiog i’r economi leol.
Ond wrth gwrs, y buddsoddiad mwyaf sylweddol yng ngogledd Cymru—yng Nghymru gyfan yn wir—yn y blynyddoedd sydd i ddod fydd prosiect gwerth £14 biliwn Wylfa Newydd. Dyma’r buddsoddiad sector preifat mwyaf ers dechrau datganoli, ac rydym yn gwbl ymrwymedig i sicrhau bod y prosiect hwn—yn amodol ar y caniatadau angenrheidiol wrth gwrs—yn sicrhau etifeddiaeth barhaol i Ynys Môn, ac i wneud yn siŵr fod y datblygiad hwn yn cael ei adlewyrchu’n llawn ac yn gyfan gwbl yn y fargen dwf.
Dirprwy Lywydd, fe fyddwch yn falch o glywed bod penodiadau wedi eu gwneud yr wythnos diwethaf i’n hunedau datblygu economaidd newydd sydd â ffocws rhanbarthol, gyda phenodi Gwenllian Roberts yn ddirprwy gyfarwyddwr i ranbarth gogledd Cymru. Bydd ein model datblygu economaidd sydd â ffocws rhanbarthol yn adeiladu ar y gwaith y buom yn ei wneud gyda’n partneriaid yng ngogledd Cymru ar ddatblygu strwythurau cydweithio newydd. Ac felly, i orffen, rydym wedi ymrwymo i wneud popeth sy’n bosibl i gefnogi swyddi a thwf ar draws gogledd Cymru, o Fae Cemaes i Saltney Ferry, ac yn wir i bob rhan o Gymru.