Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 24 Hydref 2017.
Rwy'n cydymdeimlo â hynny. Mae pobl yn dueddol o aros gyda'r un darparwr ar yr un tariff oherwydd hwylustod, ac yna, wrth gwrs, maen nhw'n methu â chael y fargen orau. Yr hyn a fydd yn helpu yw gweld—gan fod Llywodraeth y DU wedi mabwysiadu polisi'r Blaid Lafur—capiau ar dariffau ynni newidiol. Bydd hynny'n helpu llawer o bobl nad ydynt wedi manteisio ar y cyfle i newid eu tariffau, neu sy’n canfod nad ydynt yn gallu gwneud hynny, i elwa ar brisiau is.