Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 24 Hydref 2017.
Wel, rydym ni’n gwybod y bydd rhai pobl, wrth gwrs, sy’n gaeth. Efallai y bydd rhai sy’n ystyried cyffuriau anghyfreithlon wedyn. Ond, i’r mwyafrif llethol o bobl, bydd dau ganlyniad i hyn. Yn gyntaf, bydd yn helpu i leihau'r problemau iechyd sy'n gysylltiedig â goryfed. Ac, yn ail, bydd yn helpu tafarndai, a dweud y gwir, oherwydd y tafarndai sy'n dioddef fwyaf o ganlyniad i werthu gan archfarchnadoedd am brisiau llai na thafarndai, y gwyddom sy’n bwysig i'n cymunedau. Felly, mae agwedd fasnachol i hyn hefyd. Ond nid ydym yn ymddiheuro am fod eisiau sicrhau ein bod ni’n cael gwared ar sefyllfaoedd lle mae alcohol rhad iawn ar gael i bobl, mewn ffordd sy'n achosi iddyn nhw yfed gormod ac felly effeithio ar eu hiechyd.