Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 24 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:37, 24 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Un o'r problemau a wynebir ar hyn o bryd yw bod Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 wedi ei chael hi’n anodd erioed i gadw i fyny â chyffuriau newydd wrth iddyn nhw ymddangos ar y farchnad. Mae Cyffuriau fel Spice—sy’n gymharol newydd, yn achosi i bobl droi’n hynod dreisgar. Ac mae arweinydd Plaid Cymru yn llygad ei lle—mae gormod o ddefnydd agored o gyffuriau, a gwerthwyr nad yw’n ymddangos eu bod yn rhy bryderus am gael eu dal. Y peth cyntaf i'w wneud yw targedu'r gwerthwyr. Mae angen eu cael yn euog a'u carcharu—dyna lle ddylen nhw fod, oddi ar y strydoedd. Ydy, mae'n wir dweud y gall eraill ymddangos, ond mae'n bwysig anfon y neges honno.

Nawr, nid yw hynny'n ddigon ynddo'i hun; rwy'n deall hynny. Sut ydym ni'n ymdrin â phobl sy'n camddefnyddio cyffuriau? Wel mae'r strategaeth camddefnyddio sylweddau yno i helpu i wneud hynny. Mae'n gyfuniad, yn fy nhyb i, o ymyrraeth feddygol, ond hefyd bod yn gryf o ran cosbi pobl sy'n cyflenwi'r cyffuriau.