Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 24 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:39, 24 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, ceir cyfarfodydd rheolaidd eisoes a gynhelir rhwng y comisiynwyr heddlu a throseddu a Gweinidogion beth bynnag. Mae'n gwbl gywir i ddweud nad oes llawer iawn o bwynt, ac na fyddai’n iawn ychwaith, i ystyried camddefnyddio sylweddau fel rhywbeth sy'n drosedd. Ceir pobl sydd â phroblemau meddygol; mae'r cyflenwyr yn wahanol. Ond y bobl hynny, wrth gwrs, sydd mewn sefyllfa lle maen nhw’n camddefnyddio sylweddau, mae’n rhaid i’r ymyrraeth iddyn nhw fod yn feddygol. Ac mae hynny'n golygu gweithio gyda'r heddlu—mae hynny'n wir; dyna'r hyn y mae’r strategaeth camddefnyddio sylweddau wedi ei llunio i'w wneud. Dywedodd hi ei hun ein bod ni’n aros am ffigurau Cymru, ac rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod y ffigurau Cymru hynny yn dangos ein bod ni’n gweld effaith gadarnhaol ar gamddefnyddio sylweddau. Ond mae'r her bob amser yno: sut ydych chi'n ymdrin â chyffuriau newydd sy'n ymddangos, drwy'r amser, wedi eu syntheseiddio'n wreiddiol o gyffuriau nad oeddent yn bodoli ym 1971? Mae hi'n iawn i sôn am heroin—yn iawn i sôn am heroin. Ond mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gweithio gyda'r comisiynwyr heddlu a throseddu, fel yr ydym yn ei wneud, a'n bod ni’n datblygu ac yn rhoi’r amser i’n strategaeth camddefnyddio sylweddau ddatblygu, ac yn y modd hwnnw, rwy'n credu y byddwn ni'n helpu mwy a mwy o bobl i roi’r gorau i gymryd y sylweddau y maen nhw’n dod yn gaeth iddynt.