Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 24 Hydref 2017.
A gaf i groesawu'r ffaith bod yr uwchgynhadledd lysiau yn cael ei chynnal yn adeilad Pierhead ar hyn o bryd? Mae'n dod â ffermwyr, manwerthwyr, proseswyr a Llywodraeth at ei gilydd, gan edrych ar y gadwyn gyflenwi a sut y gallwn gynyddu cynhyrchiant llysiau. Rydym ni wedi ymrwymo, drwy'r cynllun gweithredu ar fwyd a diod, yr ydym ni’n ei rannu gyda'n bwrdd diwydiant a benodwyd yn gyhoeddus, nid yn unig i dyfu sector bwyd a diod Cymru, ond i wneud hynny’n gynaliadwy ac i fynd i'r afael â heriau dwys deiet. Mae'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi sefydlu trefniadau prynu sy'n galluogi cyrff cyhoeddus Cymru i gael mynediad at amrywiaeth eang o gynhyrchion llysiau i gefnogi cynllunio prydau bwyd iachach.