Brexit

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 24 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:09, 24 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, yn gyntaf, y rheswm pam y soniodd y pwyllgor amdano yw fy mod i wedi sôn amdano wrth y pwyllgor. Fi oedd yr un â’i gododd yn gyntaf, y mater hwn o'r porthladdoedd. Fe'i trafodais fisoedd yn ôl gyda Leo Varadkar, pan ddaeth yn Taoiseach, a’i gwneud yn eglur na allem ni gefnogi sefyllfa lle’r oedd ffin fwy di-dor rhwng Gogledd Iwerddon a'r Weriniaeth na rhwng Cymru a'r Weriniaeth tra bod 70 y cant o fasnach rhwng Prydain Fawr ac Iwerddon yn mynd trwy borthladdoedd Cymru. Os oes unrhyw gymhelliad i fynd trwy borthladdoedd yr Alban yn hytrach, trwy Ogledd Iwerddon, mae'n amlwg ei fod yn wael a nodwyd hynny gan y pwyllgor—mae’n wael i Gymru. Felly, bu trafodaethau gyda Llywodraeth Iwerddon ar hyn.

I fod yn blaen—rwy'n gwybod barn yr Aelod ar Brexit, ac rwy'n eu gwerthfawrogi—rwyf i wedi gweld llawer o ddogfennau gan Lywodraeth y DU erbyn hyn sy'n dweud y bydd y mater o reoli ffiniau yn cael ei ddatblygu trwy dechnoleg arloesol. Nid yw'n bodoli. Nid yw'r dechnoleg hon yn bodoli. Pe byddai’n bodoli, byddem ni wedi ei gweld erbyn hyn. Mae'n sôn am gael atebion arloesol, archwilio atebion. Dyna'r cod ar gyfer, 'Nid oes gennym ni unrhyw syniad sut i ymdrin â hyn.'

Mae’n un peth, wrth gwrs, cael teithio di-basbort rhwng Cymru ac Iwerddon. Mae teithio di-doll yn rhywbeth gwahanol. Roedd archwiliadau ar hap yn y porthladdoedd hynny bob amser yn y blynyddoedd a fu, ond nid oedd pob cerbyd yn cael ei archwilio. Ceir problem fwy yn Dover, gan nad oes gan y DU y gallu ar hyn o bryd i gyflwyno rheolaethau ffin yn Dover heb oedi enfawr, ac mae’r un fath, rwy’n amau, yn wir ar ochr Ffrainc hefyd, os ydw i'n onest, yn Calais.

Nid wyf yn credu bod ateb technolegol i hyn. Pe byddai un, yna byddem ni’n gwybod erbyn hyn gan Lywodraeth y DU beth yw'r ateb hwnnw. Un o'r atebion a gynigiwyd i mi oedd y byddai camerâu ar y ffin rhwng y gogledd a'r de yn Iwerddon. Os rhowch chi gamerâu yng Ngogledd Iwerddon gallem ni agor llyfr ar ba mor hir y bydden nhw’n aros yno, gan na fyddent. Ni fydden nhw’n aros yno. Mae'n amlygiad ffisegol o'r ffin. Byddai pobl yn eu gweld fel diffyg cydymffurfiad â’r cytundeb heddwch.

Felly mae'n broblem anhydrin. Gellir ei datrys. Yr ateb yw bod y DU yn aros yn yr undeb tollau. Yna nid oes unrhyw broblem. Nid oes unrhyw broblem. Os bydd y DU yn gadael yr undeb tollau, bydd yn rhaid i chi gael yr un math o ffin â hwnnw sy'n bodoli, er enghraifft, rhwng Gibraltar a Sbaen, gan fod Gibraltar y tu allan i'r undeb tollau. Mae honno'n ffin hynod o galed. Ni allwch chi gael sefyllfa lle mae nwyddau'n mynd i ddwy wahanol farchnad mewn dau wahanol undeb tollau heb unrhyw fath o archwiliadau ffisegol wrth groesi ffiniau tir. Mae hyn wedi bod yn broblem erioed, yn fy marn i. Ni feddyliodd neb am Iwerddon yn refferendwm Brexit, ac ni feddyliodd neb am y ffin honno, ac mae'n dal i fod yn broblem anhydrin. Yr ateb? Aros yn yr undeb tollau.