Brexit

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 24 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:13, 24 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Gadewch i mi ei atgoffa o'r hyn yr wyf i wedi ei ddweud yn gyhoeddus i dawelu ei ofnau. Yn gyntaf oll, nid wyf yn cytuno â chap artiffisial. Nid wyf yn gweld pa synnwyr sydd i hynny. Does bosib nad oes rhaid i economi recriwtio yn ôl ei hanghenion, nid cael cap artiffisial. Pe byddai cap artiffisial, yna mae problemau difrifol sy'n codi o ran pa un a fyddai capiau sectorol. Nid oes gen i unrhyw amheuaeth mai’r syniad yn Llywodraeth y DU fydd gwneud cymaint â phosibl i Ddinas Llundain—ac mae'r sector gwasanaethau ariannol yn bwysig i ni, ond mae'n aruthrol o bwysig i Ddinas Llundain—a bydd gennym gap sectorol uwch yn y pen draw, yn gymesur i'r Ddinas nag sydd gennym ar gyfer y GIG. Yn amlwg, ni fyddai hynny er lles Cymru.

Ni ddywedodd hyn yn benodol, ond gwn ei fod yn awgrymu'r syniad o gwotâu rhanbarthol, ac mae hwnnw'n syniad diddorol. Mae’n cael ei wneud yng Nghanada, mae’n cael ei wneud yn Awstralia. Iawn, maen nhw'n llawer mwy, ond nid yw'n amhosibl gwneud hyn. Yn bersonol, byddai’n well gen i beidio â chael cap, ond os oes cap, rwy’n credu fod dadl dros edrych yn ofalus ar ba un a fyddai cwotâu rhanbarthol yn gweithio, ac yn enwedig pa un a fyddent yn gweithio i Gymru.