Strategaeth Leoli Llywodraeth Cymru

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 24 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:15, 24 Hydref 2017

A gaf i ddweud wrth yr Aelod: nid yw swyddfa Caernarfon yn gadael y dref, maen nhw’n symud o un i’r llall? Mae’n wir i ddweud eu bod nhw’n symud o’r adeilad lle maen nhw nawr, ar y top, ac wedyn yn edrych ar swyddfeydd newydd mwy modern er mwyn aros yn y dref. Felly, nid oes problem ynglŷn â swyddi’n sefyll yn Nghaernarfon.

A ydy’n wir fod swyddi wedi cael eu colli? Mae hynny’n wir ar draws Cymru. Rydym ni wedi colli mwy na 1,000 o weision sifil dros y blynyddoedd—rhyw saith mlynedd. So, mae’n wir i ddweud bod yna swyddi wedi cael eu colli ym mhob rhan o Gymru.

Wrth ddweud hynny, wrth gwrs, os edrychwn ni ar y gogledd, mae gyda ni swyddfa Cyffordd Llandudno a bydd pencadlys y banc datblygu yn Wrecsam, so, felly, rŷm ni wedi ymrwymo i sicrhau bod mwy o swyddi yn cael eu symud mas o Gaerdydd. Pan ddechreuodd y Cynlluniad, roedd swyddfa yng Nghaernarfon ond nid oedd dim byd yn Merthyr, nid oedd dim byd yn Nghyffordd Llandudno, nid oedd lot yn Abersytwyth—roedd y Comisiwn Coedwigaeth yn Aberystwyth ond nid llawer yn fwy na hynny.

Rŷm ni wedi dangos ein hymrwymiad ni i symud swyddi mas o Gaerdydd ac nid oes problem o gwbl ynglŷn â swyddfa Caernarfon. Rŷm ni’n gwybod pa mor bwysig yw Caernarfon i helpu ffermwyr a hefyd wrth gwrs ynglŷn â sicrhau cyflogaeth yn y dref.