Brexit

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 24 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 2:17, 24 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Pan fo Prydain yn gadael yr UE, ni fydd gan y Siarter Hawliau Sylfaenol unrhyw effaith yng nghyfraith y DU mwyach. Mae hynny'n golygu y gellid dileu'r hawliau hynny nas cwmpasir gan y Ddeddf hawliau dynol—er enghraifft, hawliau'r plentyn, hawliau gweithwyr a gwahaniaethu. Fodd bynnag, mae Papur Gwyn y Bil diddymu mawr yn addo diogelu hawliau presennol.

Nid wyf yn gwybod amdanoch chi, Prif Weinidog, ond rwy’n hynod amheus am y Blaid Geidwadol a wrthwynebodd llawer o'r hawliau hynny yn y lle cyntaf—o ran ymddiried ynddynt i amddiffyn hawliau ar ôl Brexit. Mae'n rhaid i ni edrych yn gyflym iawn ar y ffordd y maen nhw wedi bod yn barod i gamblo hyd yn hyn â hawliau preswylio dinasyddion yr UE.

Ond, ar drywydd arall, Prif Weinidog, a wnewch chi roi sicrwydd i brifysgolion Cymru ynghylch eu hawliau i ryddid academaidd rhag ymyrraeth gan y Llywodraeth? Rwy'n siŵr y byddwch chi wedi darllen heddiw, fel yr wyf innau, yr adroddiadau ar y llythyr sinistr a dweud y gwir, a anfonwyd gan yr AS Torïaidd Chris Heaton-Harris i'r holl is-gangellorion yn gofyn am enwau unrhyw un sy'n addysgu materion Ewropeaidd neu Brexit.