Part of the debate – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 24 Hydref 2017.
Arweinydd y tŷ, byddwn i'n ddiolchgar pe caf ailadrodd fy nghais o bedair wythnos yn ôl am ddatganiad ynglŷn â chyhoeddi rheoliadau ar gyfer safonau’r Gymraeg yn y sector iechyd. Fe wnaethoch chi ddweud yn eich ateb i mi, ar y pryd, y byddai rhywbeth yn y ddadl y diwrnod canlynol, ond rwy'n ofni nad oedd. Felly, byddwn i'n ddiolchgar iawn pe gallech chi efallai bwyso am i hynny gael ei gyflwyno, er mwyn rhoi rhyw fath o syniad o bryd y bydd yr amserlen yn cael ei chyhoeddi.