2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 24 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:42, 24 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

I ateb eich cwestiwn cyntaf, Nick Ramsay, wrth gwrs, rydym ni’n croesawu canfyddiadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru. Cododd Janet Finch-Saunders hyn yn gynharach, fel y dywedasoch chi. Rydym yn falch ei fod yn nodi'r arweinyddiaeth a ddangoswyd gennym wrth ddarparu cyfeiriad ar gaffael cyhoeddus a chefnogaeth i gyrff cyhoeddus yng Nghymru ar gaffael, ond rydym yn gweld hwn fel cyfle arall i adeiladu ar y cynnydd a gyflawnwyd, a dyna pam y cyhoeddodd yr Ysgrifennydd cyllid ei fwriad i ailbwysleisio'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru o fewn Llywodraeth Cymru, gan ystyried, wrth gwrs, yr holl argymhellion yn yr adroddiad wrth inni fwrw ymlaen â'r gwaith mewn cydweithrediad â'r sector cyhoeddus.

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, rwy'n siŵr, yn nodi'r pwyntiau a wnaeth yr Aelod y prynhawn yma, ac mae cyfle bob amser i ofyn y cwestiwn hwnnw a gwneud y pwyntiau hynny iddi: amser cwestiynau ac yn briodol fel Aelod mewn pwyllgor.