3. 3. Datganiad: Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 24 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:43, 24 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Roeddwn yn falch o gyflwyno Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddoe. Mae’r Bil yn cadarnhau ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i arwain ar iechyd y cyhoedd a gwneud popeth o fewn ein gallu i wella a diogelu iechyd pobl yng Nghymru. Nod y Bil yw mynd i’r afael â niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys lleihau nifer y bobl sy’n cael eu trin yn yr ysbyty bob blwyddyn o ganlyniad i yfed alcohol, a thorri ar y nifer fawr o farwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol. Nod y Bil hwn yw lleihau’r defnydd o alcohol ymysg pobl sy’n yfed lefelau peryglus a niweidiol.

Mae effaith niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru yn hanes anodd ei ddarllen. Yn 2015-16 yn unig, roedd 54,000 o’r derbyniadau i ysbytai yng Nghymru i’w priodoli i alcohol. Mae derbyniadau i ysbytai oherwydd alcohol yn costio £120 miliwn y flwyddyn i’r GIG. Yn 2015, bu farw 463 o bobl oherwydd alcohol a gellid bod wedi atal pob un o’r marwolaethau hyn. Mae’r Bil hwn yn ymwneud â lleihau’r niweidiau hyn. Mae gennym amrywiaeth o gamau gweithredu eisoes i fynd i’r afael â niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys ymgyrchoedd iechyd y cyhoedd i hyrwyddo yfed synhwyrol a gwasanaethau triniaeth ar gyfer pobl sydd angen cymorth a chefnogaeth. Bydd y gwaith hwn yn parhau fel rhan o’n cynllun cyflawni ar gamddefnyddio sylweddau. Rydym wedi gwneud rhywfaint o gynnydd pwysig i leihau lefelau yfed gormodol a niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol yn y blynyddoedd diwethaf, ond mae angen gwneud mwy. Mae ein gallu i ymdrin â chael gafael ar alcohol a phris alcohol wedi bod yn gyfyngiad allweddol, yn enwedig o ran lleihau’r defnydd ymysg yfwyr peryglus a niweidiol. Rydym yn cydnabod bod camau i fynd i’r afael â’r alcohol rhad sydd ar gael yn fwlch allweddol yn ein strategaeth. Felly, rwy’n cyflwyno’r Bil hwn i gyflwyno isafbris am alcohol i fynd i’r afael â’r bwlch hwn ac yn rhan o’n dull ehangach a pharhaus o hyrwyddo perthynas iachach ag alcohol.

Mae’r Bil hwn yn darparu isafbris am werthu a chyflenwi alcohol yng Nghymru ac mae’n ei gwneud yn drosedd i alcohol gael ei werthu neu ei gyflenwi o dan y pris hwnnw. Caiff yr isafbris am gyflenwi alcohol yng Nghymru ei gyfrifo trwy fformiwla, gan gymryd i ystyriaeth yr isafbris uned, cryfder canrannol yr alcohol a’i gyfaint. Bydd yr isafbris uned yn cael ei osod mewn rheoliadau. Ni fydd cyflwyno isafbris yn cynyddu pris pob diod alcoholig, dim ond y rhai a werthir dan y pris hwnnw. Bydd y Bil hefyd yn cyflwyno cyfres o droseddau a chosbau sy’n ymwneud â’r system gosod isafbris newydd ac mae’n cynnig rhoi pwerau a dyletswyddau newydd i awdurdodau lleol i’w gorfodi.

Gwyddom fod pris alcohol yn bwysig. Mae pris yn dylanwadu’n gryf ar y galw am nwyddau a gwasanaethau, ac mae’r berthynas hon yn ymestyn i alcohol. Mae tystiolaeth o bob cwr o’r byd yn awgrymu y gallai cyflwyno isafbris gael effaith bwysig ar lefelau yfed peryglus a niweidiol. Credwn y bydd hyn yn cael effaith allweddol ar leihau’r defnydd o alcohol, niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol, gan gynnwys marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol, ac ar nifer y bobl sy’n cael eu trin yn yr ysbyty. A gallai leihau’r costau sy’n gysylltiedig â’r niweidiau hynny.

Roedd ymchwil gan Brifysgol Sheffield yn 2014 yn amcangyfrif y byddai isafbris uned o 50c, er enghraifft, yn werth £882 miliwn i economi Cymru dros 20 mlynedd, o ran y lleihad mewn salwch, trosedd ac absenoldeb yn y gweithle sy’n gysylltiedig ag alcohol. Rydym wedi comisiynu Prifysgol Sheffield i ddiweddaru’r dadansoddiad a wnaeth yn 2014 o effeithiau posibl polisïau isafbris uned. Rydym wedi gofyn iddynt fodelu effeithiau gwahanol isafbrisiau uned, yn amrywio o 35c i 70c, a bydd y dadansoddiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Bydd y dadansoddiad hwn a ffactorau eraill yn helpu i bennu isafbris uned alcohol ar gyfer Cymru. Mae tystiolaeth yn awgrymu mai effaith fach yn unig y byddai cyflwyno isafbris uned yn ei chael ar yfwyr cymedrol. Y bobl sy’n yfed lefelau peryglus a niweidiol o alcohol fyddai’n profi’r effeithiau mwyaf. Dyma’r bobl sydd fwyaf tebygol o yfed alcohol a fyddai’n cael ei effeithio gan isafbris uned. Y nhw hefyd yr union bobl y mae’r ddeddfwriaeth hon yn anelu at eu helpu.

Rydym wedi ymgynghori’n helaeth ar yr angen am isafbris uned ar gyfer alcohol yng Nghymru. Roedd y cynnig yn rhan o Bapur Gwyn Llywodraeth y Cynulliad ar iechyd y cyhoedd yn 2014, a chyflwynwyd Bil drafft gennym ar gyfer ymgynghoriad yn 2015. Roedd dwy ran o dair o’r bobl a ymatebodd i’r ymgynghoriad Bil drafft yn cefnogi’r syniad o ddeddfu ar gyfer isafbris am alcohol yng Nghymru. Yn benodol, cafwyd cydnabyddiaeth eang ymhlith rhanddeiliaid y gallai cyflwyno isafbris uned wneud cyfraniad pwysig i leihau’r costau sy’n gysylltiedig ag yfed gormodol ar unigolion, gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a chymunedau.

Mae’r ffordd y mae gosod isafbris uned wedi’i dargedu’n benodol at gynyddu pris alcohol cryf a rhad yn golygu y gall gael effaith bwysig ar leihau’r defnydd peryglus a niweidiol ymhlith pobl ifanc. Bydd hefyd yn cyfrannu at fynd i’r afael â materion cysylltiedig, er enghraifft y cynnydd mewn yfed cyn mynd allan, lle caiff alcohol ei yfed yn y cartref cyn mynd allan i far, tafarn neu glwb nos.

Mae prisio isafbris uned a’i effeithiolrwydd wrth leihau’r defnydd ymysg yfwyr peryglus a niweidiol wedi bod yn ganolog i’r ddadl ar alcohol mewn sawl gwlad o amgylch y byd. Ychydig iawn o wledydd sydd wedi cynnig y math hwn o ddeddfwriaeth, a gynlluniwyd yn benodol i dargedu alcohol cryf a rhad. Fel yn yr Alban, yma yng Nghymru rydym yn bwriadu defnyddio’r isafbris uned, cryfder alcohol a chyfaint yr alcohol i gyfrifo’r isafbris perthnasol. Ond yr hyn a wyddom yw, mewn gwledydd lle cyflwynwyd deddfwriaeth gyffelyb, y cafwyd gostyngiad yn y lefelau o yfed alcohol a gostyngiadau cysylltiedig mewn niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol. Yng Nghanada, er enghraifft, roedd cynnydd o 10 y cant yn isafbrisiau alcohol cyfartalog yn gysylltiedig â gostyngiad o 9 y cant mewn derbyniadau i’r ysbyty sy’n gysylltiedig ag alcohol.

Yn y pen draw, bydd cynyddu pris alcohol trwy gyflwyno isafbris uned yn lleihau lefelau peryglus a niweidiol o yfed alcohol. Bydd yn gwella iechyd ac, yn y pen draw, bydd yn achub bywydau. Rydym yn dal i aros am ganlyniad yr apêl gan y Scotch Whisky Association mewn cysylltiad ag isafbris uned yn yr Alban. Ond, trwy gyflwyno’r ddeddfwriaeth hon yn awr yng Nghymru, mae gennym gyfle i wireddu potensial gosod isafbris uned a darparu manteision iechyd ac economaidd-gymdeithasol ehangach ledled Cymru.

Bu llawer o alwadau— gan y rhan fwyaf o bleidiau gwleidyddol yn y Siambr hon a’r gymdeithas ddinesig—i Gymru ailddiffinio ei pherthynas ag alcohol. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn gyfle pwysig inni wneud hynny. Edrychaf ymlaen at y broses graffu a fydd yn dilyn ac at ymgysylltiad adeiladol y nifer o sefydliadau sydd â diddordeb mewn gwneud y Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) hwn yn llwyddiant. Diolch.