5. 5. Datganiad: Y Rhaglen Tai Arloesol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:36 pm ar 24 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 4:36, 24 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Rhaid imi ddweud fy mod yn synhwyro awgrym o anogaeth yn y datganiad hwn, ac nid yw hynny bob amser wedi bod yn wir am faterion tai yn achos Llywodraeth Cymru, ac rydym wedi anghytuno weithiau. Ond rwy'n croesawu agweddau ar y datganiad hwn yn arbennig felly. Er enghraifft, wrth adeiladu tai, mae’n dweud, ac rwy’n dyfynnu, bydd yn creu cyfleoedd enfawr ar gyfer swyddi a hyfforddiant,

Rwy’n cytuno'n llwyr â hynny, a hefyd ei fod yn awyddus i ddod o hyd i ffyrdd newydd, nid yn unig o ran cynyddu nifer y cartrefi sydd ar gael, ond hefyd o ran pa mor gyflym y gellir cyflenwi mwy ohonyn nhw.

Rwy'n credu mai dyna'r cywair sydd ei angen arnom i ddiwallu'r angen cyfredol am dai, ac rwy'n falch o glywed hynny ganddo.

Yn llai optimistaidd, ond mae hefyd, gwaetha’r modd, yn faes y mae’n rhaid i mi gytuno ag ef arno, y casgliad y daw’r adroddiad y cyfeiriodd ato iddo, sef bod yna broblemau difrifol iawn yn ein hwynebu ni yn niwydiant adeiladu’r DU. Ond rwy'n credu bod hynny’n gofyn am ddull cynhwysfawr, drwy'r sector addysg bellach yn benodol, i sicrhau y caiff y sgiliau newydd sydd eu hangen ar y diwydiant adeiladu eu darparu, a chyfeiriodd sawl gwaith at adeiladu modiwlaidd, a fydd yn galw am y sgiliau hynny.

Rwy'n croesawu wir y nod o hyrwyddo arloesedd. Rwy'n credu mai dyna'n union yw’r hyn y dylem fod yn ceisio ei wneud mewn polisi cyhoeddus: defnyddio'r adnoddau yn fwy effeithiol, dwyn pethau ymlaen, a bodloni nifer o amcanion ar yr un pryd, os oes modd. Felly, am unwaith, a gaf i ei longyfarch am ei orwariant enfawr yn hyn o beth? Rwy'n tybio bod y gronfa bellach ddwywaith yn fwy nag y bwriadwyd ei gwario, a bydd yn ymestyn y gronfa i'r sector preifat hyd yn oed y flwyddyn nesaf, rhywbeth, eto, yr wyf i’n ei groesawu. Ond mae’n bwynt difrifol: rwyf i o’r farn pan fydd arloesi yn codi stêm—. Ac, fel y clywsom ni, rydych chi wedi cael eich synnu ac rydych yn falch iawn bod cymaint o brosiectau wedi’u cyflwyno. Eto, rwy’n credu bod hynny'n golygu eich bod wedi cyrraedd y man cywir, o ran rhaglen ddefnyddiol gan Lywodraeth.

O ran y manylion, felly: cartrefi yn orsafoedd pŵer—rwy’n credu’n wir mai dyma’n union y math o uchelgais y dylem ei chael, sef defnyddio effeithlonrwydd ynni mewn tai fel ffordd o roi rhywfaint o incwm i bobl ac, yn amlwg, i gael gwared ar unrhyw risg o dlodi tanwydd i’r bobl yn y cartrefi hynny. Roeddwn yn falch iawn yn ddiweddar i ymweld â'r tŷ SOLCER ger Pen-y-bont ar Ogwr gyda'r pwyllgor. Roedd yn wirioneddol wych gweld yr ymarfer arloesol yn y fan honno, a chredaf fod hynny'n cynnwys Prifysgol Caerdydd, ac fe wnaethoch chi gyfeiriad at rywfaint o'u gwaith nhw. Yn wir, credaf mai’r hyn yr ydym yn dymuno’i weld yw'r math hwn o waith yn cael ei gyflwyno ymhellach, ac mae’r tŷ effeithlonrwydd ynni hwnnw hefyd o ddyluniad modiwlaidd.

Rwy'n gwybod o ran hynny, eto, mai un o'r problemau yw sut i ddatblygu’r dechnoleg ymhellach o ran batris. Mae llawer o gynnydd wedi bod, ac fe ddangoson nhw hynny i ni. O’r blaen roedd y batri’n llenwi’r rhan fwyaf o’r gofod o dan y to, bellach maint rheiddiadur gweddol fawr ydyw. Felly, cafwyd cynnydd gwirioneddol, ond mae'n bwysig, rwy’n credu, ar gyfer bwydo yn ôl i'r grid a chael yr incwm hwnnw.

Ond, yn bennaf oll, dywedwyd wrthym fod y math hwnnw o ddyluniad arloesol ar hyn o bryd, gan fod yn rhaid ei archebu’n bwrpasol o hyd, yn costio tua dwywaith yn fwy i’w adeiladu na deunyddiau traddodiadol. Eto, pan fydd cynnydd o ran maint, bydd y costau hynny'n lleihau yn ddramatig iawn. Rwy'n deall bod cyngor sir Caerfyrddin wrthi’n adeiladu ystad o dai cymdeithasol gan ddefnyddio'r dulliau newydd hyn. Tybed a yw'n edrych ar ddefnyddio'r sector tai cymdeithasol fel ffordd o sefydlu pa mor hyfyw yw’r math hwn o weithredu a dylunio modiwlaidd ac effeithlonrwydd ynni ac, yn wir, gynhyrchiant net. Bydd hynny'n cael ein cefnogaeth ni.

O ran cartrefi modiwlaidd, eto rwy'n credu—. Hynny yw, roedd hyn yn rhan o'r ateb yn y 1950au; y gred oedd bod llawer o'r cartrefi hynny yn rhai dros dro ond mae un neu ddau o gwmpas hyd heddiw—mae'n debyg y byddan nhw’n cael eu cludo i Sain Ffagan cyn hir—oherwydd roeddent mewn gwirionedd yn eithaf poblogaidd ac roedd hi’n anodd cael rhai pobl i symud ohonyn nhw. Ond nawr mae'r dechnoleg wedi datblygu cymaint fel mai dyluniad modiwlar yw'r ffordd orau yn aml o adeiladu tai. Dyna yw'r newid sylfaenol sydd wedi digwydd, ac rwy'n falch o weld ei fod yntau’n ymuno â'r alwad i adeiladu gofal hyblyg ar gyfer pobl yn y Cymoedd, a byddai gen i ddiddordeb mawr i weld sut y bydd hynny’n cael ei drin. Rwy’n deall, y llynedd, fod Legal & General wedi agor ffatri bwrpasol i adeiladu tua 3,000 o gartrefi modiwlar ledled y DU. Maen nhw’n amcangyfrif y bydd yn cymryd 70 y cant yn llai o amser i adeiladu'r cartrefi hynny na dulliau traddodiadol. Felly, eto, rwy’n credu bod yna ddiwydiant arwyddocaol yma a ffordd o fanteisio arno os gallwn ni ddatblygu'r farchnad yng Nghymru.

Felly, rwy’n croesawu hynny ac yn gobeithio y bydd dyluniad modiwlaidd yn cael ei ddefnyddio hefyd i ateb y gofynion mewn cymunedau trefol sy'n newid. Rwy'n gweld y rheini, yn enwedig ar sail egwyddorion amgylcheddol, y cyfeiriwyd atyn nhw gennych chi hefyd, yn rhan o'r ateb, fel y bydd gennym gartrefi o faint teuluol i bobl iau nad yw’n debygol y gallan nhw fforddio tŷ pâr traddodiadol. A beth bynnag, maen nhw’n croesawu’r ffordd newydd hwn o fyw ac maen nhw’n gweld y manteision o gael lle chwarae cymunedol efallai—ond, wyddoch chi, maen nhw hefyd yn adeiladau diddorol iawn ac arloesol i fyw ynddyn nhw ac yn effeithlon o ran ynni. Felly, rwyf i o’r farn, o ran dylunio trefol, fod yna lawer o gyfleoedd i’w cael yma. Ac yn wir, roedd y datganiad hwn yn chwa o awyr iach ac rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru yn gwneud peth cynnydd yn y meysydd hyn.