5. 5. Datganiad: Y Rhaglen Tai Arloesol

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:09 pm ar 24 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 5:09, 24 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Llywydd, a diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad heddiw. Mae'n beth gwirioneddol gadarnhaol i ni gael clywed am yr ymateb i'ch galwad am gynigion, ac edrychaf ymlaen at ryddhau rhestr lawn o’r ymgeiswyr llwyddiannus. Gwn na allwch chi rannu gormod o fanylion eto, ond mae'n wirioneddol hyfryd i glywed am gynnwys busnesau sefydliadol bach yn y rhaglen hon, sy'n cyd-fynd yn berffaith â'r peilot Gwell Swyddi, yn nes Adref a'r cyfeiriadau at gefnogi economi sefydliadol yn 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' a 'Ffyniant i Bawb'. Felly, fy nghwestiwn cyntaf i yw hyn: i ba raddau yr oeddech chi'n blaenoriaethu cynigion gan gwmnïau cynhenid, llai o faint sy'n cyflogi pobl leol ac felly'n rhoi eu helw yn ôl i mewn i'r economi leol? Ac, yn ail, rwy'n siŵr y byddwch chi wedi clywed y sylwadau heddiw gan Gymuned Tai Cymru am y terfyn diffygiol ar lwfans tai lleol gan Lywodraeth y DU. Sut mae hyn wedi dylanwadu ar eich polisi chi, yn enwedig o ran y rhannau hynny o Gymru a allai fod wedi’i chael hi anodd iawn, neu a fydd yn ei chael hi’n anodd iawn oherwydd newidiadau polisi gan yr Adran Gwaith a Phensiynau?