Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 24 Hydref 2017.
Er gwaethaf y ffaith mai’r Prif Weinidog sy’n cael y gair olaf a bod ganddo arfer o'i ddefnyddio, ni allaf beidio â defnyddio datganiad Churchill am y Prif Weinidog Neville Chamberlain—ei fod, ac rwy’n dyfynnu:
‘yn edrych ar faterion tramor drwy ben anghywir pibell ddraen drefol’.
Ni allaf ychwaith osgoi cyhoeddeb Churchill, rhywbeth tebyg i,
‘Peidiwch â dadlau am anawsterau. Gwnaiff yr anawsterau ddadlau drostynt eu hunain’.
Gwnaethoch sôn am y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) ar 16 Hydref, lle’r oedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn bresennol. Casgliad y cyd-gyhoeddiad a wnaethpwyd ar ôl y cyfarfod hwnnw oedd,
‘Nododd y Gweinidogion y cynnydd cadarnhaol sy’n cael ei wneud o ran ystyried fframweithiau cyffredin’.
Felly, oni ddylem fod yn dathlu'r ffaith, fel y dywedodd hyn, bod cytundeb wedi'i gyrraedd rhwng Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig ynglŷn â’r egwyddorion a fydd yn sail i'r broses o ddwyn pwerau yn ôl o'r UE i'r DU, ac yn sail i ddatblygu fframweithiau cyffredin i’r DU ar y cyd rhwng pedair gweinyddiaeth y DU, lle mae angen cydweithrediad a safonau cyffredin—eich geiriau chi—pan na fydd fframweithiau'r UE yn berthnasol mwyach i’r DU? Yn y cyd-destun hwnnw, hefyd, a allech chi ddweud wrthym a fu unrhyw drafodaeth eto, neu a ydych chi’n ymwybodol o unrhyw drafodaeth eto, ynghylch cynigion ar gyfer dyfarnu sy'n berthnasol i'r fframweithiau cyffredin hynny y cytunwyd arnynt?
Gwnaethoch sôn am gyfarfod y Cyngor Ewropeaidd yr wythnos diwethaf. Pam na wnewch gydnabod bod y ddwy ochr—nid wyf yn hoffi defnyddio 'ochr', oherwydd, wrth gwrs, rydym ni i gyd yn ffrindiau ac yn gymdogion—nawr o fewn pellter cyffwrdd i fargen ar hawliau dinasyddion, eu bod yn cytuno bod rhaid osgoi unrhyw seilwaith ffisegol ar y ffin yn Iwerddon a bod rhaid i'r ardal deithio gyffredin barhau, a bod araith y Prif Weinidog yn Florence wedi rhoi mwy o ysgogiad i drafodaethau am y setliad ariannol a'r cyfnod i’w roi ar waith? Rwy’n mynd i wrthsefyll y demtasiwn i ofyn pa bolisïau, sydd yn ôl pob tebyg yn ddryslyd, sydd gan eich cydweithwyr yn Senedd y DU ar hyn o ran yr undeb tollau, y farchnad sengl, symudiad rhydd ac ail refferendwm, oherwydd rwyf mor ddryslyd â phawb arall am hynny.
Onid yw'n wir, ar ôl cyfarfod y Cyngor Ewropeaidd yr wythnos diwethaf, bod Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk, wedi dweud, rwy’n dyfynnu,
‘Mae adroddiadau bod sgyrsiau am Brexit rhwng Prydain a'r UE wedi pallu wedi’u "gorliwio".
Onid yw'n wir bod arweinwyr 27 aelod-wladwriaeth arall yr UE wedi dweud wrth y DU bod cynnydd wedi bod yn y trafodaethau, a'u bod wedi rhoi'r golau gwyrdd i ddechrau paratoadau am ail gam sgyrsiau Brexit, gan ddechrau â masnach, i glirio’r ffordd i ddechrau trafodaethau ffurfiol o bosibl am berthynas fasnach yr UE â’r DU yn y dyfodol ym mis Rhagfyr? Onid yw'n ffaith bod Canghellor yr Almaen Angela Merkel, ar ôl y trafodaethau hynny, wedi dweud bod arwyddion gobeithiol y byddant yn cynllunio ar gyfer dechrau trafodaethau â Phrydain am fasnachu ym mis Rhagfyr, a’i bod wedi dweud ein bod yn mynd i gyflawni 'canlyniad da', y bydd canlyniad da? Pam na allwch chi ymuno â'r ymagwedd gadarnhaol honno os ydych chi eisiau canlyniad da? Oherwydd mae eich ymosodiadau ailadroddus ynglŷn â’r mater hwn yn parhau i ymladd negeseuon y refferendwm, er i chi honni eich bod yn eu derbyn yn hytrach nag uno â’r giwed gyferbyn i wrthwynebu popeth sy’n ymwneud â hyn.
Gwnaethoch sôn am y Bil ymadael â’r UE. Er ein bod yn rhannu eich pryder ynghylch cyfyngiadau ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad hwn ac yn derbyn y rhesymeg y dylai Gweinidogion y DU ymgynghori â ni cyn gwneud unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth â chymhwysedd datganoledig, a ydych chi'n cydnabod bod ymagwedd Llywodraeth y DU yn seiliedig ar adborth yr oeddent wedi’i gael gan ddiwydiant yn y DU a Chymru ac mai bwriad hyn oedd bod ar ochr economi gref? Efallai y gallwch ddweud wrthym beth mae Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ei ddweud am hyn, oherwydd rwy’n gwybod beth maen nhw wedi'i ddweud wrth Lywodraeth y DU. Bwriad y Bil ymadael Ewropeaidd yw darparu cymaint â phosibl o sicrwydd a pharhad i fusnesau, gweithwyr a defnyddwyr ledled y DU na fyddant yn wynebu newidiadau annisgwyl a sicrhau bod y llyfr statud yn gallu gweithredu ar y diwrnod ar ôl inni adael yr UE. A wnewch chi gadarnhau eich bod chi'n rhannu'r nod hwnnw, er bod gennych chi amodau penodol o hyd yr hoffech iddynt gael eu bodloni?
Gwnaethoch ddweud nad yw 'dim bargen' yn opsiwn, ond a wnewch chi gydnabod, er y bydd rhai pobl yn cofio’r nod hwnnw o 'ddim bargen', mai strategaeth negodi oedd hyn i'r rhan fwyaf o bobl a bod y ffaith—[Torri ar draws.]—y ffaith bod poblogrwydd yr opsiwn 'dim bargen' ymhlith poblogaeth y DU wedi arwain at newid pwyslais gan lawer o leisiau blaenllaw yn yr UE o bosibl wedi profi bod y strategaeth yn gweithio? Mae er budd i bawb sicrhau bargen dda, i’r DU ac i'n ffrindiau a'n cymdogion yn yr UE, ac er mai cynllunio ar gyfer pob canlyniad yw'r dull cyfrifol, mae Llywodraeth y DU yn credu mai cael canlyniad da, un sy'n gweithio i bobl a busnesau'r DU ac i’r rheini yn yr UE yw'r canlyniad mwyaf tebygol o bell. A oes angen inni ofyn pam na wnaethoch, felly, gydnabod yn eich datganiad bod y Prif Weinidog a David Davis wedi dweud yn gyson ein bod am weld cytundeb llawn a chynhwysfawr gyda'r UE gan gadw ardal fasnachu agored a rhydd ar draws cyfandir Ewrop? [Torri ar draws.] Iddyn nhw, nid yw’r gwydr yn hanner llawn nac yn hanner gwag; mae'n ymddangos bod y gwydr yn hollol wag yn barhaol. Rydych yn dweud mai’r unig ffordd o gadw ffin feddal Iwerddon-Gogledd Iwerddon yw drwy barhau i weithio mewn undeb tollau o fewn yr UE.