Part of the debate – Senedd Cymru am 6:10 pm ar 24 Hydref 2017.
Diolch, Llywydd. Gwnaf geisio bod mor fyr ag y gallaf. Prif Weinidog, rwy’n codi i siarad ar ôl arweinydd UKIP yn y Cynulliad—mae’n ymddangos, unwaith eto, ei bod yn well ganddo ei farn ef na ffeithiau yn y mater hwn—byddaf i’n ceisio cadw at y ffeithiau.
Mae'r materion yn eich datganiad yn tynnu sylw at ddau faes, sy'n ymwneud â phrosesau a chynnydd y prosesau hynny, yn San Steffan ac ym Mrwsel. O ran San Steffan, mae'r pwyllgor yr wyf i’n ei gadeirio, y pwyllgor materion allanol, wedi edrych yn ofalus iawn ar y Bil ymadael â’r UE ac wedi awgrymu eu chwe maes eu hunain lle'r ydym yn credu bod angen addasu'r Bil, nid yn unig i adlewyrchu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn amdano, ond i fynd y tu hwnt i hynny ac edrych ar swyddogaeth y Cynulliad a'i allu i graffu ar Weinidogion yn ein Llywodraeth ni i sicrhau y gallwn gynnal hynny, ac mae'n briodol i'n democratiaeth y gallwn ni wneud hynny. Felly, a gaf i ofyn cwestiwn ynghylch beth yw eich llinellau coch fel Llywodraeth ar y Bil ymadael hwnnw? Rydych chi wedi tynnu sylw at eich gwaith gyda Llywodraeth yr Alban. Wel, rydym wedi mynd y tu hwnt i hynny. Beth yw eich llinellau coch cyn y gallwch benderfynu a yw'r Bil hwnnw wedi'i ddiwygio'n ddigonol erbyn hyn i'r Llywodraeth ei dderbyn?
O ran y cynnydd yn Ewrop, rydym wedi cael cyfle i ofyn cwestiynau i'r tri chynrychiolydd Ewropeaidd blaenllaw: Didier Seeuws dros y cyngor, Michel Barnier dros y Comisiwn, a Guy Verhofstadt dros y Senedd. Byddwn wrth fy modd yn cael cyfle i ofyn yr un cwestiynau i brif drafodwr y DU, ond nid yw ef wedi dod atom eto. Pan wnaethom gyfarfod â Michel Barnier, yn wir—rwy'n dyfynnu, mewn ffordd—doedd ef ddim eisiau sefyllfa 'dim bargen'. Roedd ef wir eisiau taro bargen ac mae'n awyddus i weithio er pennaf les yr UE-27 a'r DU, a dywedodd ei bod yn bwysig nodi mai’r DU sydd wedi gofyn am gael gadael, ac fel y dywedasoch, na fyddai'n deg disgwyl i'r UE-27 dalu am yr holl ymrwymiadau a wnaethpwyd mewn cytundeb â'r DU yn y Fframwaith Ariannol Amlflwydd. Fel yr ydych newydd ei nodi nawr yn eich ateb, byddai'n fethiant i anrhydeddu'r cytundebau hynny a gallai fod yn broblem. Felly, pwy fyddai'n ymddiried mewn cytundeb masnach newydd gyda gwlad nad yw'n anrhydeddu’r ymrwymiadau y mae wedi’u gwneud yn gywir? Felly, rwy’n meddwl bod angen inni ymdrin â hynny, ond a allwch chi ofyn y cwestiwn ar—? Rhoddodd Leanne Wood sylw i’r cwestiwn a ydych chi’n gwneud cynlluniau wrth gefn ar gyfer 'dim bargen', ond a ydych chi wedi gwneud unrhyw ddadansoddiad o sefyllfa 'dim bargen'? A yw Llywodraeth y DU mewn gwirionedd wedi trafod gyda chi eu dadansoddiad o effaith 'dim bargen', rhywbeth y mae'n ymddangos nad ydynt hyd yn oed yn ei roi i'w Senedd eu hunain? A ydynt wedi rhannu hynny gyda'r sefydliadau datganoledig?
Hefyd, ynglŷn â chylch cyfarfodydd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion, rwy'n gwerthfawrogi eich bod yn meddwl bod cynnydd yn cael ei wneud, ac mae'n wych gweld un yn digwydd wyth mis ar ôl yr un diwethaf, ond mae'r nesaf, rwyf ar ddeall, cyn y Nadolig. Mae'r cylch trafodaethau ym Mrwsel bob pedair wythnos, felly a fyddwch yn gwthio am fwy o gylchoedd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) fel y gallwn wneud cyfraniad go iawn at y gwaith trafod neu negodi, yn hytrach na dim ond cael adroddiadau gan Lywodraeth y DU? Ac ynglŷn â’r Papur Gwyn ar gyfer y tollau—