6. 6. Datganiad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Drafodaethau Brexit

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:19 pm ar 24 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 6:19, 24 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, a dweud y gwir, mae angen inni weld cynnydd dros y misoedd nesaf. Mae amser yn mynd yn brin. Mae'n rhaid inni gofio bod angen cytundeb erbyn yr adeg hon y flwyddyn nesaf, i bob diben, oherwydd yna mae proses gadarnhau, nid yn unig mewn sefydliadau Ewropeaidd, ond ym mhob un Senedd, ac mewn rhai achosion, fel Gwlad Belg, mewn Seneddau rhanbarthol hefyd. Mae hynny i gyd yn cymryd llawer iawn o amser. Gall dim ond un ohonynt, fel y gwyddom o gytundeb masnach Canada, daflu’r broses oddi ar y cledrau. Nid yw hyn erioed wedi'i wneud o'r blaen.

Mae rhywfaint o obaith oherwydd, wrth gwrs, nid yw hon yn sefyllfa lle mae dwy farchnad yn dod at ei gilydd i gytuno ar fynediad rhydd, sydd erioed wedi bod â mynediad o’r fath o'r blaen. Mae gennym fynediad rhydd eisoes, felly, a dweud y gwir, nid yw mor anodd negodi cytundeb masnach rydd—neu ni ddylai fod— gyda’r UE ag y mae gyda gwledydd eraill nad ydym erioed wedi bod â chytundeb masnach rydd â nhw—fel yr Unol Daleithiau. Mae yna frys. Rydw i'n mynd i geisio bod yn deg yma, mae angen i'r Prif Weinidog allu cynnal y trafodaethau hyn heb sŵn cefndir oddi mewn i’w Chabinet ei hun. Mae hynny'n hollol hanfodol. Mae hi wedi rhoi gwell syniad inni o'r hyn yr hoffai hi ei wneud. Rwy'n cytuno. Rwy’n meddwl bod yr hyn a amlinellodd yn Florence yn gwbl synhwyrol, ond mae arni angen cefnogaeth y bobl yn ei Chabinet, ac mae hynny, hyd yn hyn, wedi bod yn brin.