Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 25 Hydref 2017.
Wel, Dirprwy Lywydd, rwy’n rhannu pryder yr Aelod ynglŷn â nifer y seddi diwrthwynebiad mewn cynghorau tref a chymuned yng Nghymru yn etholiadau mis Mai. Rwy’n awyddus i ni wneud mwy fel Llywodraeth, ond nid cyfrifoldeb llywodraethau’n unig yw cymryd camau yn hynny o beth. Yn ein prif etholiadau cyngor, cafwyd mwy o ymgeiswyr nag erioed o’r blaen, ac mae hynny’n arwydd y gall ymdrechion i ddenu mwy o bobl i sefyll etholiad fod yn llwyddiannus. Rwy’n falch iawn o fod yn aelod o blaid a gyflwynodd gannoedd yn fwy o ymgeiswyr nag y gwnaeth ei phlaid hi yn yr etholiadau hynny. Fe ddywedaf wrthi, yn union fel y mae gan y Llywodraeth gyfrifoldeb i sicrhau bod swyddi cynghorwyr tref a chymuned yn ddeniadol ac yn cael eu hysbysebu’n eang, mae gan bob un ohonom ninnau, fel pleidiau gwleidyddol ar wahân, gyfrifoldeb i geisio annog pobl i sefyll etholiadau, ac mae’r ffaith nad etholwyd unrhyw un i gynghorau tref a chymuned Caerdydd yn adlewyrchu anallu ei phlaid hi lawn cymaint ag unrhyw blaid wleidyddol arall i ddod o hyd i bobl i ymgeisio am y swyddi hynny.