Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 25 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 1:59, 25 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Ie, diolch am yr eglurhad. Wrth gwrs, byddai diffyg gwybodaeth yn gwneud hynny’n anodd iawn, felly rwy’n cymryd bod y sefyllfa o ran Llywodraeth y DU a’r Alban yn wahanol, felly, i sefyllfa Llywodraeth y DU a chyllid llywodraeth leol yng Nghymru. Gan barhau â thema ariannu llywodraeth leol, yn y gorffennol rydych wedi pwysleisio’r angen i chwilio am ffynonellau incwm gwahanol i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Dywed Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod hyn yn haws i gynghorau yn Lloegr ei gyflawni ar hyn o bryd oherwydd eu pŵer cymhwysedd cyffredinol. Clywsom heddiw fod cynghorau yn Lloegr wedi buddsoddi mewn gorsafoedd petrol, mewn archfarchnadoedd, ac yn Llundain, maent hyd yn oed yn berchen ar eu canolfannau siopa eu hunain. Pe bai gan gynghorau yng Nghymru bŵer cymhwysedd cyffredinol, a fuasai’r llwybr mwy entrepreneuraidd hwn yn llwybr da iddynt ei ddilyn, yn eich barn chi, neu a fuasai gormod o anfanteision posibl?