Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 25 Hydref 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, diolch am eich ateb. Ar dudalen 23 o adroddiad polisi trethi Llywodraeth Cymru, ceir ymffrost eu bod wedi cael cryn dipyn o ymateb gan y cyhoedd i’r alwad am syniadau am gynigion ar gyfer trethi newydd. Dengys ffigurau yn yr un adroddiad eich bod wedi cael cyfanswm o 305 o ymatebion, sy’n 0.009 y cant o boblogaeth Cymru. Gellid dadlau eich bod wedi gorliwio pethau i raddau. A allwch ddweud wrthyf faint o’r ymatebion hyn a gafwyd gan unigolion preifat yn hytrach na grwpiau lobïo, a sawl un a awgrymodd mai ardoll dwristiaeth oedd y ffordd orau ymlaen?