Part of 3. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 25 Hydref 2017.
Mae myfyrwyr o Gymru yn haeddu mynediad teg ar sail teilyngdod at leoedd yn Rhydychen a Chaergrawnt. Er bod rhwydwaith Seren yng Nghymru yn helpu i arfogi a pharatoi ein pobl ifanc mwyaf disglair yn academaidd ar gyfer y prifysgolion gorau, megis Rhydychen a Chaergrawnt, mae’n rhaid i’r prifysgolion hynny ddangos bellach eu bod yn herio’r rhagfarnau yn eu prosesau derbyn eu hunain.