Part of the debate – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 25 Hydref 2017.
Diolch, Llywydd. Rwy’n falch o agor y ddadl heddiw, a hoffwn yn gyntaf ddiolch i bawb a ddarparodd dystiolaeth ysgrifenedig a llafar i’r ymchwiliad hwn, yn ogystal â’r staff a’r defnyddwyr gwasanaethau rydym wedi’u cyfarfod ar ein hymweliadau, a chofnodi ein cydnabyddiaeth o’r gwaith sylweddol a phwysig sydd wedi cael ei gyflwyno gan brosiectau Cymunedau yn Gyntaf a staff ar draws Cymru dros y 16 mlynedd diwethaf. Mae wedi cael effaith gadarnhaol ar unigolion, effaith sydd wedi newid bywydau mewn llawer o achosion, fel gyda nifer o bobl ifanc yn fy etholaeth i sydd bellach yn gweithio ym maes datblygu cymunedol eu hunain ac sy’n helpu i sicrhau newid cadarnhaol pellach yn eu cymunedau.
Yn dilyn y cyhoeddiad fod y rhaglen yn dirwyn i ben, penderfynwyd cynnal ymchwiliad byr a oedd yn canolbwyntio ar dri pheth: cryfderau a gwendidau Cymunedau yn Gyntaf, trefniadau pontio a’r effaith ar raglenni cysylltiedig eraill. Cyhoeddwyd ein canfyddiadau cychwynnol ym mis Gorffennaf, ac yn dilyn hyn, cyhoeddwyd adroddiad manylach yr wythnos diwethaf. Gwnaethom 11 o argymhellion. Derbyniodd y Llywodraeth chwech ohonynt, derbyniodd dri mewn egwyddor a gwrthododd ddau.
Rydym yn argymell yn gryf y dylid cyhoeddi strategaeth trechu tlodi. Gwrthododd y Llywodraeth yr argymhelliad hwn, gan ddweud y buasai ei pholisi yn cael ei nodi yn ‘Ffyniant i Bawb’, ei strategaeth genedlaethol a gyhoeddwyd wedyn ym mis Medi, a’i bod yn awyddus i fabwysiadu dull mwy cyfannol o ymateb i’r heriau hirdymor.
Er ein bod yn croesawu ymateb trawsadrannol, rydym yn dal i gredu bod strategaeth trechu tlodi yn hanfodol. Byddai’n dangos sut y mae’r dull traws-Lywodraethol yn gweithio a byddai’n galluogi’r Cynulliad i graffu ar ei effeithiolrwydd. Nid ydym yn credu bod dull cyfannol yn rhwystro strategaeth a chynllun gweithredu o’r fath. Felly, buaswn yn pwyso ar Ysgrifennydd y Cabinet i ailystyried y materion hyn.
Gan symud ymlaen at y trefniadau pontio ar gyfer Cymunedau yn Gyntaf, roedd Llywodraeth Cymru yn dweud yn y canllawiau y dylai cyflogadwyedd, y blynyddoedd cynnar a grymuso lywio’r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer awdurdodau lleol. Roedd y dystiolaeth a glywsom yn tynnu sylw at bwysigrwydd cynllun cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru, ac yn ein hadroddiad, tynnwyd sylw at y ffaith nad yw wedi cael ei gyhoeddi o hyd. Mae hyn wedi ei gwneud yn anos i awdurdodau lleol lunio eu cynlluniau pontio, ac i ni fel pwyllgor ddeall effaith lawn dirwyn Cymunedau yn Gyntaf i ben. Buasem yn annog Llywodraeth Cymru i’w gyhoeddi cyn gynted ag y bo modd.
Symudwn ymlaen at rymuso. Dywedodd awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill wrthym nad oeddent yn glir ynglŷn â beth oedd hyn yn ei olygu yn ymarferol. Felly, roeddem yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru egluro hyn, a chafodd hynny ei dderbyn mewn egwyddor. Mae canllawiau pontio’n diffinio grymuso fel hyn:
‘sicrhau bod cymunedau’n cymryd diddordeb ac yn cael eu grymuso i fynegi eu llais yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.’
Nid ydym yn credu bod y diffiniad hwn yn darparu’r eglurder angenrheidiol a buasem yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu rhai enghreifftiau penodol o’r hyn a olygir yn ymarferol.
Mae Cymunedau yn Gyntaf wedi bod yn cyflwyno amrywiaeth eang o wahanol brosiectau ledled Cymru. Gallai rhai o’r rhain, fodd bynnag—neu, fel y buasai rhai yn dadlau, dylai rhai o’r rhain—gael eu darparu gan wasanaethau statudol. Felly, rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod awdurdodau lleol yn nodi rhaglenni o’r fath a bod y rhai sy’n llwyddiannus ac sy’n cael eu gwerthfawrogi gan gymunedau yn cael eu trosglwyddo i gyrff statudol perthnasol. Buasai hyn wedyn yn ei gwneud hi’n bosibl cyfeirio cyllid etifeddol cyfyngedig tuag at y prosiectau y mae Cymunedau yn Gyntaf yn eu gwneud orau.
Mae’r Llywodraeth wedi derbyn yr argymhelliad ac wedi amlinellu sut y maent yn bwrw ymlaen â hyn. Fodd bynnag, er ein bod yn croesawu’r gwaith sy’n cael ei wneud ym maes iechyd ac ym maes addysg, buasem yn gwerthfawrogi mwy o wybodaeth ynglŷn â pha gefnogaeth a gynigir i brosiectau y tu hwnt i’r meysydd hyn. Yn ogystal, ni fydd y gwaith sy’n cael ei wneud yn cynnwys unrhyw brosiectau a ddaeth i ben o ganlyniad uniongyrchol i’r cyhoeddiad fod y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn cael ei dirwyn i ben. Hoffwn felly gael mwy o wybodaeth ynglŷn ag a yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw asesiad o nifer a manylion prosiectau o’r fath, yn enwedig y rheini sy’n ymwneud ag iechyd ac addysg nad ydynt wedi eu cynnwys o fewn cyflogadwyedd, y blynyddoedd cynnar a grymuso.
Yn ystod y dystiolaeth lafar, cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet y buasai cyllid etifeddol ar gael ar gyfer y ddwy flynedd ariannol nesaf. Ychwanegodd hefyd fod posibilrwydd o ddarpariaeth am ddwy flynedd arall. Rydym wedi galw am eglurder. Yna cadarnhaodd y Llywodraeth yr ymrwymiad i gyllid am y ddwy flynedd nesaf, ond unwaith eto ni wnaethant egluro’r sefyllfa y tu hwnt i’r cyfnod hwnnw o amser. Buaswn yn ddiolchgar pe bai Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu darparu’r eglurder hwnnw heddiw, ac os na all wneud hynny, hoffwn pe bai’n ymrwymo i wneud hynny cyn cyhoeddi cyllideb derfynol 2018-19.
Llywydd, i gloi, hoffwn ailadrodd fy sylwadau yn canmol y gwaith a wnaed gan Cymunedau yn Gyntaf ledled Cymru, ond gan fod y penderfyniad wedi’i wneud bellach i ddod a’r rhaglen i ben, mae’n hanfodol fod y trefniadau pontio a’r ddarpariaeth barhaus yn gadarn ac yn helpu i ddiogelu elfennau mwyaf effeithiol y rhaglen. Rwy’n gobeithio y bydd ein hadroddiad yn chwarae rhan yn hyn, ac rwy’n edrych ymlaen yn awr at glywed cyfraniadau’r Aelodau. Diolch yn fawr.