Part of the debate – Senedd Cymru am 5:37 pm ar 25 Hydref 2017.
Clywais yr hyn y mae newydd ei ddweud am y modd y bydd y broses o gyflwyno’n galluogi’r materion hyn i gael eu datrys, wrth symud ymlaen. A all ddeall, felly, pam rydym wedi ei dreialu yn Nhorfaen a Sir y Fflint yma yng Nghymru, a heddiw, mewn gwirionedd, yn y 10 munud diwethaf, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dweud, ar sail y treialon hynny, y dylid ei atal am y tro yng Nghymru ar gyfer ystyried?