Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 25 Hydref 2017.
Diolch, Llywydd. Mae dadl Plaid Cymru heddiw yn mynd i’r afael ag un o brif faterion cymdeithasol ein cyfnod. Mae bellach y tu hwnt i amheuaeth fod y broses o gyflwyno credyd cynhwysol yn achosi mwy o galedi, ac mae’r ffaith bod credyd cynhwysol wedi cael ei gyflwyno ochr yn ochr â thoriadau llym i les wedi gwneud y problemau cynhenid yn y cynllun hyd yn oed yn waeth. Mae Cyngor ar Bopeth wedi sefydlu bod y rhai sy’n cael credyd cynhwysol yn fwy tebygol o fod mewn dyled ar filiau rhent, treth gyngor a dŵr. Mae dyled, troi allan a defnydd o fanciau bwyd i gyd wedi cynyddu i rai sy’n cael cymorth yn y cynlluniau peilot. Rydym yn gwybod bod digartrefedd yn uwch eisoes, ac eto, yn nes ymlaen, bydd hyn yn golygu mwy o risg o fod yn ddigartref eto, yn ogystal â mwy o gostau i’r GIG, llywodraeth leol a gwasanaethau cymdeithasol.
Nawr, y celwydd mwyaf sydd wrth wraidd y credyd cynhwysol, a’r anghyfiawnder mwyaf, yw’r syniad fod hyn rywsut yn ymwneud yn llwyr â chymell pobl i weithio. Mae defnyddio’r system nawdd cymdeithasol i gael pobl i weithio yn nod canmoladwy na fyddai fawr iawn o bobl yn anghytuno ag ef. Ond y ffordd o gyflawni hyn yw drwy wneud i waith dalu mwy na’r budd-daliadau, nid trwy gosbi pobl a’u gorfodi i gymryd swyddi am gyflog isel neu swyddi ansicr, neu drwy ddefnyddio sancsiynau. Yn wir, mae asesiad effaith yr Adran Gwaith a Phensiynau ei hun o gredyd cynhwysol yn awgrymu y bydd 2.1 miliwn o bobl sy’n ei dderbyn yn gweld cyfraddau eu didyniadau’n cynyddu. Golyga hyn nad yw’n wir i ddweud bod credyd cynhwysol yn gwneud i waith dalu; i’r gwrthwyneb i 2.1 miliwn o bobl weithgar.
Mae hyn yn golygu bod y system newydd, mewn gwirionedd, yn cael gwared ar gymhellion ariannol i bobl weithio a oedd yn bodoli o dan y system flaenorol i nifer sylweddol o bobl. I roi halen ar y briw, mae credyd cynhwysol yn sefydlu diwylliant o sancsiynau ac yn ymestyn y diwylliant hwnnw i gynnwys gweithwyr rhan-amser, fel pe bai gweithwyr rhan-amser bellach yn bobl sy’n byw oddi ar eraill fel y byddai’r Torïaid yn eu galw.
Mae cyfradd sancsiynau’n uwch na’r system flaenorol a gellir eu defnyddio yn erbyn pobl sydd mewn gwaith cyflogedig. Os yw Llywodraeth y DU yn mynnu bwrw ymlaen â chredyd cynhwysol, ceir model sydd eisoes yn bodoli o fewn y DU i Gymru allu addasu a lliniaru ei effeithiau gwaethaf. Buasai datganoli rheolaeth weinyddol ar les yn caniatáu i Lywodraeth Cymru newid amlder y taliadau, rhoi diwedd ar y diwylliant o sancsiynau ac amseroedd aros hir, a sicrhau y gallai taliadau fynd i unigolion yn hytrach nag i aelwydydd. Mae’r model ar gyfer hyn, wrth gwrs, yn yr Alban lle y gwnaed y defnydd cyntaf o bwerau datganoledig gan Lywodraeth yr Alban i newid amlder y taliadau o fod yn fisol i bob pythefnos yn dilyn adborth. Gwnaethant hi’n bosibl hefyd i’r cydrannau tai gael eu talu’n uniongyrchol i landlordiaid. Mae’r cyfreithiau newydd yn yr Alban hefyd yn gosod dyletswydd ar Weinidogion i gynorthwyo pobl sy’n ei hawlio. Mae hyn yn golygu y gellir cymryd camau gweithredu yn awr y tu ôl i’r llenni i fynd i’r afael â’r diwylliant sancsiynau.
Yng Ngogledd Iwerddon, mae mesurau tebyg i liniaru credyd cynhwysol eisoes wedi eu cytuno a byddant yn cael eu gweithredu pan ailddechreuir rhannu grym.
Mae’r lefel hon o ddatganoli wedi gwneud agenda nawdd cymdeithasol ddatganoledig ehangach yn bosibl hefyd, gan gynnwys polisïau helaeth i liniaru effeithiau toriadau lles San Steffan a sefydlu asiantaeth nawdd cymdeithasol. Mae datganoli’r agweddau hynny ar nawdd cymdeithasol yn cael ei gefnogi nid yn unig gan yr SNP, ond ar sail drawsbleidiol, sy’n cynnwys y Blaid Lafur yn yr Alban. Mae angen consensws o’r fath yma yng Nghymru, yma yn y Cynulliad hwn. Yn anffodus, mae’n ymddangos nad yw’r Llywodraeth yn cytuno. Ble mae eu strategaeth wrthdlodi? Beth y maent yn ei wneud i liniaru’r diwygiadau lles creulon hyn? Os gellir gweithredu’r gwasanaeth iechyd gwladol gan y gwahanol wledydd, yna nid oes unrhyw reswm pam na all agweddau eraill ar y wladwriaeth les ar ôl y rhyfel gael eu gweithredu felly yn ogystal. Mae’n rhaid i ni roi datganoli lles ar yr agenda. Nid yw’n gwneud unrhyw synnwyr inni ddal ati i ladd ar y Torïaid ynglŷn â hyn pan allem fod yn gwneud pethau’n wahanol yma yng Nghymru. Fel Aelodau’r Cynulliad, rydym mewn perygl o fod yn ddim mwy na sylwebwyr ar hyn—