Part of the debate – Senedd Cymru am 5:46 pm ar 25 Hydref 2017.
Hoffwn ddechrau fy ymyriad gyda dyfyniad gan etholwr i mi yng Nghaerfyrddin:
Mae bod yn fam sengl yn fy nychryn. Cefais lythyr heddiw yn rhoi gwybod i mi faint o gredyd cynhwysol y bydd gennyf hawl iddo, ac rwy’n mynd i fod £210 y mis yn waeth fy myd. Rwy’n gweithio 16 awr yr wythnos ac rwy’n llwyddo o drwch blewyn i ddal dau ben llinyn ynghyd yn awr. Mae’n gas gennyf feddwl beth fydd fy sefyllfa pan fyddaf yn newid i gredyd cynhwysol yn y pen draw. Am bob £1 rwy’n ei hennill yn ychwanegol at fy lwfans gwaith, eir â 65c oddi arnaf. Sut y mae hyn i fod i annog a helpu pobl i weithio?
Dyna un yn unig o’r 20,000 o bobl yn Sir Benfro yn unig yr effeithir arnynt gan y newidiadau i’r credyd cynhwysol, ac er ei bod yn wir i ddweud y bydd rhai ar eu hennill, y ffaith amdani yw y bydd y rhan fwyaf, oherwydd bod Llywodraeth y DU yn mynnu dilyn trywydd mesurau cyni, yn llawer gwaeth eu byd. Y peth rhyfeddaf oll am y polisi hwn, fel sydd eisoes wedi cael ei awgrymu, yw ei fod yn cael ei weithredu a bod y ffordd y mae’n cael ei weithredu, mewn llawer o achosion, yn tanseilio’r ysgogiad ariannol i weithio.
Mae rhieni sengl gyda phlant dibynnol yn cael eu taro’n arbennig o galed, a byddant yn cael £3,100 y flwyddyn yn llai nag y maent yn ei gael gyda chredyd treth: ergyd enfawr i unrhyw gyllideb deuluol. Ac mae Llywodraeth y DU wedi mynd ati’n fwriadol i gyflwyno’r credyd cynhwysol yn raddol fel y gall pawb ohonom ddysgu gwersi, ond yn Wigan, mae pedwar o bob pump o’r rhai sy’n hawlio credyd cynhwysol, neu dros 80 y cant o bobl, wedi mynd i ddyled gyda’u rhent. Rhaid i mi ofyn, os mai dyna yw tystiolaeth y gwersi, pam nad ydym yn oedi i ailfeddwl sut y gallwn wneud y system yn haws i rai o’r bobl fwyaf difreintiedig ac agored i niwed yn ein cymunedau?
Mae mwy na hanner y bobl sy’n cael y credyd cynhwysol yn gweithio. Maent yn gwneud y peth iawn iddynt eu hunain ac i’r gymdeithas ehangach, ond maent yn cael eu cosbi yn awr. Nid wyf yn meddwl bod unrhyw un yn hyrwyddo’r ffaith y dylem barhau â’r system bresennol, sy’n hynod gymhleth, ond mae’r ffordd y caiff y system ei chyflwyno yn gwbl wrthgynhyrchiol.
Ceir problem benodol sy’n deillio o’r pwynt ynglŷn â bod arian yn cael ei ôl-dalu, ac ar hyn o bryd mae’n rhaid aros 42 diwrnod am y taliad cyntaf ac mae eraill, fe glywoch, yn gorfod aros 60 diwrnod am ôl-daliad. Mae tua hanner y rhai sy’n derbyn credyd cynhwysol hyd yn hyn wedi gallu cael taliadau ymlaen llaw, ond mae’n anodd iawn i bobl sy’n agored i niwed sydd â sgiliau darllen ac ysgrifennu gwael brofi eu bod angen arian i dalu am filiau neu i dalu am fwyd. Ac yn anffodus, mae’r ffaith bod Llywodraeth y DU yn credu bod yr oedi hwn cyn talu yn dderbyniol rywsut ac yn bosibl i bobl sy’n aml yn byw bywydau caotig, yn tanlinellu pa mor allan o gysylltiad yn llwyr y maent â’u hetholwyr. Ac ar ben hynny, dychmygwch sut y mae hi i rywun sy’n gaeth—i gamblo, alcohol neu gyffuriau efallai—neu bobl ag anawsterau dysgu i reoli’r hyn a allai ymddangos fel llawer iawn o arian yn eu cyrraedd i gyd ar unwaith wedyn.
Mae’n ddiddorol nodi bod y cyd-bwyllgor hawliau dynol wedi rhybuddio y gallai’r broses o gyflwyno’r budd-dal credyd cynhwysol wneud menywod yn agored i gael eu cam-drin am fod y budd-dal yn cael ei dalu i gyplau trwy gyfrif ar y cyd. Dylem fod yn bryderus y gall rhai dynion gyfyngu ar fynediad eu partneriaid at arian a gorfodi menywod i aros mewn perthynas dreisgar.
Yn y cynlluniau peilot a welsom, rydym wedi gweld cynnydd anferth mewn ôl-ddyledion rhent, sydd â goblygiadau i landlordiaid tai cymdeithasol a landlordiaid tai cyngor. Rydym wedi clywed eisoes fod llawer o bobl bellach yn ddigartref o ganlyniad. Rydym wedi gweld y cynnydd enfawr yn y galw mewn banciau bwyd. Mae llawer wedi cael eu gyrru i freichiau benthycwyr arian didostur, ac maent yn codi cyfraddau llog gormodol ar bobl sydd am fwydo eu plant. Gadewch i ni beidio ag anghofio bod un o bob tri phlentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi—sefyllfa gywilyddus mewn gwlad sydd yn bumed wlad gyfoethocaf y byd, a lle y bydd Llywodraeth y DU wedi gwneud gwerth £80 biliwn o doriadau treth, gan gynnwys gwerth £22 biliwn o doriadau treth incwm, erbyn 2021. Rwy’n credu ei bod yn bryd chwistrellu rhywfaint o gyfiawnder i mewn i’r system hon, er mwyn ailgydbwyso’r anghydraddoldeb yn y wlad hon, ac i wneud yn siŵr fod pawb yn cael ei gymell i gyfrannu ac i weithio.
Rwy’n ofni fy mod yn anghytuno â’r cynnig y dylid datganoli rheolaeth dros les. Nid wyf yn credu bod unrhyw obaith y bydd Llywodraeth y DU yn rhyddhau’r arian ar gyfer lles gan ildio rheolaeth weinyddol. [Torri ar draws.]