Part of the debate – Senedd Cymru am 5:52 pm ar 25 Hydref 2017.
Un o brif broblemau credyd cyffredinol ydy ei fod o’n cael ei dalu i gartrefi yn hytrach nag unigolion, ac rwy’n mynd i ganolbwyntio ar yr agwedd yna am ychydig. Dim ond un person fydd yn cael derbyn yr arian ar ran y cartref, felly mae yna gwestiynau o gydraddoldeb yn codi yn syth efo hynny, oherwydd mae’n debygol mai’r dyn fydd yn ei dderbyn yn y rhan fwyaf o achosion—nid bob tro o bell ffordd, ond yn y mwyafrif o achosion, mae’n bur debyg. Bydd hyn yn cynyddu dibyniaeth ariannol merched ar ddynion ac yn milwrio yn erbyn y ffaith bod dynion a merched yn gydradd. Mae hawl merched i annibyniaeth ariannol yn hawl sylfaenol—hawl sy’n cael ei danseilio efo credyd cyffredinol. Mae o felly’n gam sylweddol yn ôl yn yr ymdrech i gael cydraddoldeb llawn rhwng dynion a merched—ymdrech y mae rhai ohonom ni yn rhan ohono fo ers 40 mlynedd a mwy erbyn hyn. Mae’r daith tuag at gydraddoldeb llawn yn boenus o araf fel y mae hi. Mae unrhyw gam yn ôl—a dyna beth ydy hwn—angen ei gollfarnu gan y Cynulliad hwn, ac yn bwysicach na hynny, mae angen ei newid o, a defnyddio’r hawliau y gallem ni eu cael yn fan hyn i newid o. Mae angen i fudd-dal gael ei dalu i unigolion, nid i gartrefi.
Mae un agwedd ar hyn yn peri pryder mawr. Mae talu’r budd-dal i un person mewn cartref yn gallu golygu byddai rhai merched yn cael eu dal mewn perthynas o gamdriniaeth. Gyda’r dyn yn derbyn yr arian, y dyn sydd â’r pŵer, ac os ydy’r dyn hwnnw hefyd yn euog o gam-drin ei wraig neu ei bartner, mae’r sefyllfa yn anodd iawn i’r ferch. Mae rhai sydd o blaid credyd cyffredinol yn dadlau bod yna fecanwaith ar gyfer gweithio yn erbyn hynny, ond mae hynny’n safbwynt naïf iawn yn fy marn i. Mae hanner y merched sy’n cael eu cam-drin yn methu â gadael y berthynas oherwydd camdriniaeth ariannol. Efallai bod y ferch yn aros mewn perthynas niweidiol am ei bod yn poeni y byddai yna oblygiadau ariannol difrifol iddi hi petai hi’n gadael.
Mae’r arian ei hun yn cynyddu camdriniaeth. Gall un partner gadw arian yn ôl o’r llall gan ddefnyddio grym ariannol mewn ffordd hollol annerbyniol. O dan credyd cyffredinol, os ydy cwpl yn gwahanu, mae’n rhaid i un person rhoi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau. Nid yw’r person sydd yn derbyn y budd-dal yn mynd i fod yn barod i wneud yr hysbysiad. Felly, yn y rhan fwyaf o achosion, eto, y merched fydd yn gorfod gwneud hynny ac yn cael eu dal allan yn y broses, ar adegau. Mae’n rhaid gwneud cais newydd, a fydd yn cymryd o leiaf pum wythnos i’w brosesu. I ddynes sydd heb arian ac, o bosib, plant i ofalu amdanyn nhw, mae amser fel aur. Nid ydy gwneud cais newydd bob tro ddim yn flaenoriaeth pan fyddwch chi’n ffoi am eich bywyd neu’n poeni am ddiogelwch eich plant. Petai’r budd-dal yn cael ei dalu i bob unigolyn, yna ni fyddai angen mynd drwy’r broses fiwrocrataidd o gofrestru pan fo dau unigolyn yn gwahanu.
Rŵan, wrth gwrs, petai gennym ni’r hawl i weinyddu ein budd-daliadau ein hunain yng Nghymru, fe allem ni newid hynny. Gweinyddu yr ydym ni’n sôn amdano fo yn y fan yma, cofiwch, nid derbyn yr hawl i greu budd-daliadau newydd, nid sôn am ariannu, ond y gweinyddu. Ac mi fyddai cael gafael ar hynny’n medru bod yn ffordd o greu system deg. Ie?