Part of the debate – Senedd Cymru am 5:58 pm ar 25 Hydref 2017.
Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl heddiw. Mae system newydd y credyd cynhwysol yn peri pryder mawr ymhlith y rhai a fydd yn cael eu heffeithio ganddi. Rydym yn gweld hyn o ganlyniadau’r broses o’i gyflwyno hyd yn hyn. Felly, yn UKIP, rydym yn rhannu’r pryderon. Rydym yn cytuno â Phlaid Cymru i’r graddau hynny, ac rydym yn meddwl bod Plaid Cymru’n iawn i gyflwyno hyn fel pwnc ar gyfer dadl, er nad ydym yn cefnogi uchelgais Plaid Cymru y dylai lles gael ei ddatganoli i Gymru. Yn hynny o beth, rydym yn cefnogi Llafur ar yr achlysur hwn mewn gwirionedd, gan nad ydym yn credu bod datganoli’r system les i’r Cynulliad Cenedlaethol yn ateb ymarferol i’r problemau sy’n wynebu Cymru, a gallai wneud pethau’n llawer gwaeth mewn gwirionedd, am y rhesymau a glywsom, fod Cymru’n dderbynnydd net o ran lles a’r anallu i wybod a fyddwn yn cael yr un lefel o gyllid pe bai lles wedi’i ddatganoli. Rwy’n derbyn efallai fod Steffan Lewis wedi codi pwynt sydd angen ei archwilio ymhellach, ond dyna ein safbwynt fel y mae ar hyn o bryd.
Rydym hefyd yn cytuno â’r Ceidwadwyr i ryw raddau, y gallai’r egwyddorion sy’n sail i’r credyd cynhwysol fod wedi bod yn ganmoladwy o ran helpu pobl yn ôl i’r gwaith fel cysyniad. Ond mae’r ffordd y mae’r drefn newydd wedi ei llunio mor ddiffygiol fel ei bod yn ein rhoi mewn gwaeth sefyllfa nag o’r blaen yn ôl pob tebyg.
Clywsom dystiolaeth ar y pwnc yn y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. Cawsom academyddion o unedau polisi cymdeithasol yn dod i mewn a oedd wedi cyfweld llawer o hawlwyr a oedd yn rhan o’r broses o gyflwyno’r credyd a gofynnwyd i sampl o’r hawlwyr beth oedd eu barn am y cynllun newydd. Ar y cyfan, nid oedd croeso i’r system newydd. Roedd y prif broblemau’n cynnwys mynediad at y system yn y lle cyntaf, oedi gyda thaliadau, problemau ynglŷn â ble y bydd y taliad yn mynd lle y ceir ceisiadau ar y cyd, a sancsiynau.
Un agwedd ar y system newydd yw’r anhawster i wneud y cais yn y lle cyntaf. Nawr, ychydig flynyddoedd yn ôl cawsom newid o system lle y byddai’r rhan fwyaf o hawlwyr newydd am fudd-daliadau’n gwneud apwyntiad i weld rhywun, person go iawn, mewn canolfan waith neu swyddfa debyg, i system lle y câi’r rhan fwyaf o geisiadau newydd eu gwneud dros y ffôn. Felly, roedd hynny’n codi un lefel o anhawster. Nawr, gyda chredyd cynhwysol, rydym yn symud ymlaen at lefel newydd o anhawster, oherwydd erbyn hyn caiff y ceisiadau cychwynnol eu gwneud ar-lein. Felly, mae hyn yn codi’r mater nad yw rhai hawlwyr ar-lein ac ni allant wneud pethau ar-lein, a’r perygl yw y gallai llawer o’r bobl hynny ddisgyn trwy’r craciau.
Ar ôl i chi gael eich cais wedi ei brosesu, y broblem nesaf yw’r oedi dros daliadau. Wel, rydym wedi clywed llawer am y pwnc hwnnw heddiw. Manylodd Bethan Jenkins ar hynny yn ei chyfraniad agoriadol wrth iddi dynnu sylw at y risg y bydd hawlwyr yn mynd i fwy o ddyled oherwydd yr oedi. Ceir risg hefyd o fynd i ddyled gyda’r rhent, rhywbeth arall y clywsom lawer amdano, oherwydd y system lle y telir y rhent i’r hawlwyr eu hunain mewn cyfandaliad mawr, ac ni chaiff ei dalu’n uniongyrchol i’r landlord mewn gwirionedd. Yn anffodus, mae’r dull hwn yn cynyddu’r perygl y bydd pobl yn mynd i ddyled a landlordiaid yn methu cael eu rhent. Amlygodd Eluned Morgan y problemau gyda cheisiadau ar y cyd, a phwy sy’n cael y taliad, a’r ffaith nad oes unrhyw amddiffyniad go iawn wedi’i gynnwys yn y system ar gyfer menywod a phlant, er nad y fenyw sy’n cael y taliad bob amser wrth gwrs, ond yn gyffredinol mae hwnnw’n bwynt sydd angen inni ei ystyried.
Pan fyddwch yn y system ac yn cael eich taliad, mae bygythiad hollbresennol o sancsiynau, a grybwyllwyd gan Leanne Wood. Nawr, o dan gredyd cynhwysol, mae cyfundrefnau’r sancsiynau’n llymach, ac wrth gwrs, fel mewn unrhyw fiwrocratiaeth—ac mae’r system les yn fiwrocratiaeth enfawr—gall sancsiynau gael eu gosod ar gam. Dyma enghraifft. Mae’r system credyd cynhwysol yn gorfod ymdrin nid yn unig â phobl nad ydynt yn gweithio, ond hefyd â phobl sy’n gweithio, ond mewn swyddi ar gyflogau isel. Mae hyn oherwydd ei fod hefyd yn cymryd lle credydau treth gwaith. Y broblem yw y gallech chi, o dan yr hen system, hawlio credydau treth gwaith heb ymweld â’r ganolfan waith, gan eu bod yn cael eu hawlio drwy’r system dreth. Nawr, os oes gennych swydd, ond bod y cyflog yn isel, mae’n rhaid i chi fynd i’r ganolfan waith i hawlio eich taliadau ychwanegol. Felly, rydych yn gweithio, efallai mewn swydd reolaidd amser llawn, naw tan bump, ond mae’n rhaid i chi hefyd fynd i’r ganolfan waith yn rheolaidd. Tybed a allwch weld i ble rydym yn mynd gyda hyn: ie, pobl sydd â swyddi’n cael apwyntiadau yn y ganolfan waith sy’n gwrthdaro â’u horiau gwaith. Maent yn methu’r cyfweliadau hyn, yn ddealladwy, ac yna’n wynebu sancsiynau gan y ganolfan waith am fethu dod i’r apwyntiadau hynny. Os caiff rhywun ei ddal yn y math hwn o drap, mae’n camu i fyd Kafkaidd o frwydro yn erbyn biwrocratiaeth ddi-hid, ac anaml iawn y bydd yr unigolyn yn ennill y frwydr honno.
Hyd yn oed os oes gennych swydd sy’n mynd â 10 awr, dyweder, byddwch yn cael eich annog—eich blacmelio mewn geiriau eraill—i gymryd swydd arall am 15 awr. Mae’r ymagwedd anhyblyg hon yn arwain at sefyllfaoedd hurt fel dweud wrth fenyw dros 60 oed â thair swydd ganddi am gyfanswm o 21 awr am gael swydd arall. Gall sancsiynau ddod ar hap, a gallant ddigwydd chwe mis ar ôl y camymddwyn honedig. Mae’r broblem gyda hyn yn ddeublyg. Un broblem yw na fydd yr unigolyn sy’n cael ei sancsiynu yn cofio’r rheswm drosto yn ôl pob tebyg, felly ni fydd yn gallu apelio’n effeithiol. Problem arall yw y bydd yn annisgwyl i raddau helaeth, felly unwaith eto mae’n creu risg y bydd yr hawliwr yn mynd i ddyled neu ôl-ddyled gyda’r rhent—