8. 8. Dadl Plaid Cymru: Credyd Cynhwysol

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:18 pm ar 25 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 6:18, 25 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Y pwynt a wneuthum wrth ymyrryd yn gynharach oedd bod Llywodraeth yr Alban wedi llwyddo i negodi fframwaith cyllidol a oedd yn caniatáu addasiad i’r bloc Barnett er mwyn gweinyddu lles yn yr Alban. A yw’n dweud nad oes ganddo hyder i fynd i Lundain i negodi setliad ar gyfer Cymru er mwyn iddo allu gweinyddu lles yma a dod â’r anghyfiawnder i ben yn awr?