Part of the debate – Senedd Cymru am 6:21 pm ar 25 Hydref 2017.
[Yn parhau.]—syniadau adeiladol i adeiladu ein system les bosibl ein hunain ar gyfer y dyfodol yma yng Nghymru, fel na fydd yn rhaid i ni, o bosibl, osod sancsiynau ar bobl, ac y gallwn weinyddu taliadau gyda pharch i’r unigolion. Pam na all Llywodraeth Cymru ystyried hynny? Nid ydym yn clywed yr ateb hwnnw yma heddiw.
Ni fyddwn yn cefnogi gwelliant y Torïaid yn hyn o beth. Melin drafod Dorïaidd yw’r Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol y tynnodd Mark Isherwood sylw ati, gyda’r enw mwyaf paradocsaidd a grëwyd erioed ar gyfer melin drafod. Mae gennyf ddwy—.