Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 14 Tachwedd 2017.
Rŷm ni'n gwybod, wrth gwrs, am y sefyllfa fel y mae hi. Mae hi wedi cael ei chodi'n gyson yn y Siambr hon gyda chi. Rydw i'n gwybod am hyd at saith practis yn ardal Wrecsam yn unig sydd o dan fygythiad o gau, ac mae yna nifer o rai eraill, wrth gwrs, mewn rhannau eraill o'r rhanbarth.
Nawr, un o'r trafferthion ymarferol sydd yn peri tramgwydd yw'r sefyllfa o safbwynt cost yswiriant indemnity i feddygon; mae yna gost o dros £10,000 o bosib. Nawr, yn amlwg, ni fyddwn i'n disgwyl iddyn nhw fod yn ddoctoriaid heb gael hynny, ond mae hi yn gallu bod yn broblem ymarferol iawn, er enghraifft drwy drio denu doctoriaid sydd wedi ymddeol yn ôl, efallai, i helpu mewn rhai ardaloedd penodol. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain wedi codi hyn yn gyson ac rŷm ni fel Aelodau Cynulliad, rydw i'n gwybod, wedi cael negeseuon clir i'r perwyl yna. A gaf i ofyn, felly, beth mae'r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud i drio mynd i'r afael â'r pwynt ymarferol penodol yna?