Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 14 Tachwedd 2017.
Rwy'n ymwybodol o'r arwyddion a welir yn Lloegr, ond mae'n rhaid i mi ddweud nad ydyn nhw'n gywir, yn aml. Rwyf i wedi amseru fy hun ar ôl gweld yr arwyddion hynny ac maen nhw—wel, sut gallan nhw fod? Oherwydd ni allan nhw ddarparu ar gyfer yr hyn sydd o'n blaenau yn y traffig, yr hyn a allai ddigwydd. Gall unrhyw nifer o bethau ymyrryd â llif traffig. Wedi dweud hynny, wrth gwrs, byddwn yn parhau i adolygu pa wybodaeth arall y gellid ei rhoi ar gael i yrwyr er mwyn gwneud eu teithiau'n haws.