Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 14 Tachwedd 2017.
Ydw, mi ydwyf. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud datganiad yn fuan i'r Aelodau ar y niferoedd pendant a recriwtiwyd i'r cynllun hyfforddi meddygon teulu, ond rwy'n deall y bydd hyn yn dangos recriwtio pellach cadarnhaol, sy'n well na'r gyfradd lenwi gychwynnol o 91 y cant, yr wyf yn credu sydd wedi cael ei hadrodd o'r blaen yn y Siambr hon, a bydd hynny'n cynrychioli gwelliant sylweddol i'n niferoedd hyfforddi meddygon teulu yng Nghymru.