3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 14 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 2:59, 14 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Hoffwn innau hefyd groesawu arweinydd newydd y tŷ i'w swydd newydd. Mae ei swydd, fel y gwyddom, o ganlyniad i ad-drefnu tra sylweddol. Yr hyn yr hoffem ni yn UKIP ofyn amdano, yw datganiad ar beth yw costau amcanol yr ad-drefnu hwn i'r pwrs cyhoeddus. Mae'n ad-drefnu eithaf mawr. O'r hyn a ddywedwyd, mae nifer y Gweinidogion wedi cynyddu o 12 i 14. O gofio y bydd cost o ran dewiniaid delwedd, yn ogystal â'r cyflogau Gweinidogol ychwanegol, a allwn ni gael esboniad o'r angen am y swyddi ychwanegol a'r costau ychwanegol rhagamcanol, ac o ble y daw'r arian ychwanegol hwnnw o ran cyllideb Llywodraeth Cymru? Diolch.