8. Dadl: Adroddiad Blynyddol 2016-17 Comisiynydd y Gymraeg

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:13 pm ar 14 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 4:13, 14 Tachwedd 2017

Diolch, Lywydd, a hoffwn i longyfarch Eluned Morgan ar gael ei dewis i rôl Gweinidog y Gymraeg, a diolch i Alun Davies am ei waith. 

Mi hoffwn gyflwyno gwelliannau 1 a 2 yn enw Rhun ap Iorwerth, ac rwyf yn nodi bod y Llywodraeth o blaid gwelliant 1 ond yn erbyn gwelliant 2. Mae'n gwelliannau ni i'r ddadl yma heddiw yn pwysleisio pwysigrwydd rôl Comisiynydd y Gymraeg a sut mae'r rôl honno wedi sicrhau datblygiadau cadarnhaol yn y defnydd o'r Gymraeg o dan y gyfundrefn safonau iaith, a hynny ar ôl ond blwyddyn o'u gweithredu. Mae'r adroddiad yn cymharu ystadegau blwyddyn gyflawn o dan y gyfundrefn safonau a'r flwyddyn cyn iddyn nhw ddod i rym. Er enghraifft, mae 76 y cant o siaradwyr Cymraeg o'r farn bod gwasanaethau Cymraeg sefydliadau cyhoeddus yn gwella, ac mae 57 y cant o bobl yn credu bod cynnydd yn y cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio'r Gymraeg. 

Nid fy ngwaith i ydy amddiffyn gwaith y comisiynydd, ond ni ellir gwadu'r dystiolaeth gadarn sy'n cael ei chyflwyno yn yr adroddiad. Mae'r ystadegau yn dangos pa mor effeithiol ydy rôl Comisiynydd y Gymraeg chwe blynedd ers sefydlu swyddfa'r comisiynydd. Felly, mae gen i bryder—ac mae'r pryderon yn cael eu rhannu gan nifer o arbenigwyr ieithyddol—fod gwneud unrhyw newidiadau strwythurol o'r math sy'n cael eu cynnig ym Mhapur Gwyn y Llywodraeth ar gyfer Bil y Gymraeg yn mynd i ddad-wneud nifer o'r datblygiadau cadarnhaol sydd wedi digwydd hyd yma.

Mi wnes i amlinellu mewn dadl ar Bapur Gwyn y Llywodraeth ychydig fisoedd yn ôl nifer o resymau pam fod cynigion y Llywodraeth am Fil y Gymraeg yn gwanhau ein hawliau sylfaenol ni fel siaradwyr Cymraeg. Brynhawn yma, rwyf am ganolbwyntio ar y syniad o ddiddymu rôl Comisiynydd y Gymraeg.

Mewn llythyr cyfrinachol gan asiantaeth rhyngwladol y comisiynwyr iaith sydd wedi dod i law, mae'r asiantaeth yn dweud yn glir nad oes gwell ffordd i ddal unrhyw Lywodraeth i gyfrif na thrwy un comisiynydd iaith annibynnol. Maen nhw'n mynd ymlaen i ddweud eu bod nhw wedi dod i'r casgliad hwn oherwydd eu profiadau helaeth yn y maes. Yn y llythyr, maen nhw'n dadlau bod y comisiynydd iaith yn chwarae rhan bwysig wrth reoleiddio'r ddarpariaeth o wasanaethau Cymraeg ac mae diddymu'r rôl am fod yn niweidiol i'r cynnydd cadarnhaol a gyflawnwyd hyd yma. Fe gafodd y llythyr yma ei arwyddo gan 10 o gomisiynwyr iaith ledled y byd.

Os mai bwriad y Llywodraeth yw cryfhau hawliau sylfaenol siaradwyr y Gymraeg, yn ogystal â gwireddu'r targed o gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr erbyn 2050—ac rwy'n croesawu'ch ymrwymiad chi i barhau efo'r nod yna—os mai dyna ydy eich dymuniad chi, yna symleiddio'r broses a symud ymlaen a chyflwyno mwy o safonau sydd ei angen, yn hytrach na gwneud newidiadau strwythurol. Mae angen symud ar frys efo'r gwaith o gyflwyno safonau ar gyfer sectorau eraill. Rwy'n deall eich bod chi ar fin cyflwyno safonau ar gyfer y gwasanaeth iechyd. Mae'n hen bryd i hynny ddigwydd. Mae adroddiadau ar safonau'r cymdeithasau tai ar ddesg eich rhagflaenydd chi ers dwy flynedd, y cwmnïau dŵr ers bron i ddwy flynedd, y bysiau a'r trenau a'r rheilffyrdd ers bron i flwyddyn. Felly, rwyf yn mawr obeithio y byddwch chi, fel y Gweinidog newydd dros y Gymraeg, yn ailystyried diddymu rôl Comisiynydd y Gymraeg ac yn symud ymlaen yn hytrach, i sicrhau ac ehangu ar hawliau sylfaenol siaradwyr Cymraeg ledled Cymru.