Part of the debate – Senedd Cymru am 4:43 pm ar 14 Tachwedd 2017.
Ond mae eisiau i ni wrando ar bob un yng Nghymru. Rydw i yn meddwl bod hynny’n bwysig. Mae yna bobl sy’n broffesiynol, ac mae yna bobl hefyd—. Mae’n rhaid inni gyrraedd y miliwn yma. Rydw i eisiau gwrando ar y bobl sy’n mynd i fod yn dysgu Cymraeg, hefyd. Rydw i eisiau gwrando ar bobl sydd ddim yn siarad Cymraeg ar hyn o bryd. Rydw i eisiau clywed beth sydd ganddyn nhw i’w ddweud. Efallai eu bod nhw wedi ymateb, efallai eu bod nhw heb.
Ar y safonau, Neil Hamilton, rydw i’n meddwl eich bod chi’n iawn. Roedd Alun wedi defnyddio