Part of the debate – Senedd Cymru am 4:44 pm ar 14 Tachwedd 2017.
Lee Waters, rydw i’n meddwl bod yn rhaid i ni berswadio, yn yr un modd, yn hytrach na mynnu bod pobl yn ei wneud e. Rydw i yn meddwl bod angen gofyn am fwy o fanylion: faint sydd wedi cwyno? Beth oedd effeithlonrwydd swyddfa’r comisiynydd? Rydw i eisiau cael benchmarking yn digwydd. Ac rydw i yn meddwl bod hynny wedi neidio mas arnaf i hefyd: mai dim ond pedwar mas o bump o blant oedd yn dysgu Cymraeg. Mae eisiau i ni edrych i mewn i'r rhesymau am hynny.
Felly, mae yna lot o bethau rydym ni'n gallu eu gwneud. Rwy'n meddwl mai'r peth pwysicaf i ni gofio nawr yw ein bod ni'n cadw'r ffocws yna ar y miliwn o siaradwyr Cymraeg. Mae pwysau ar y Llywodraeth i arwain. Fe fydd y Llywodraeth yn arwain. Mae'n rhaid i ni hefyd feddwl am yr economi. Mae'r economi yn hollbwysig yn y drafodaeth yma. Ond, nid yw'r Llywodraeth yn gyfan gwbl yn gallu newid hyn. Mae'n rhaid i bobl Cymru ddod gyda ni ac mae'n rhaid i ni eu perswadio nhw i wneud hynny.