8. Dadl: Adroddiad Blynyddol 2016-17 Comisiynydd y Gymraeg

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 14 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 4:35, 14 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Mae hefyd yn galonogol iawn sylwi, yn ei hadroddiad, bod y ddadl gyhoeddus yn parhau i fod yn gadarnhaol. Mae wyth deg pump y cant yn credu bod y Gymraeg yn rhywbeth i ymfalchïo ynddi, ac mae 76 y cant o siaradwyr Cymraeg yn cytuno bod sefydliadau cyhoeddus yn gwella eu gwasanaethau Cymraeg. Rwy'n credu bod hynny yn galonogol iawn. Mae'r ffaith yr hoffai 68 y cant o bobl weld archfarchnadoedd yng Nghymru yn defnyddio mwy o Gymraeg yr un mor galonogol, ac ategaf hynny'n gryf. Credaf nad oes unrhyw esgus i gyrff mawr o'r fath, sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, i beidio ag arddel ysbryd y ddeddfwriaeth hon.401

Credaf ei bod hi yn bwysig, wrth inni fwrw ymlaen ag esblygu ein dull o weithio, ein bod ni'n creu diwylliant lle yr ydym ni'n helpu sefydliadau i lwyddo ac nad ydym ni'n gosod cyfres o rwystrau biwrocrataidd sy'n ei gwneud hi'n anodd iddyn nhw gydymffurfio, gan geisio eu baglu. Rwy'n credu bod y Comisiynydd yn cytuno bod y broses gyfredol yn rhy fiwrocrataidd. Mae'r ddeddfwriaeth yn pennu ffordd anhyblyg braidd o gydymffurfio sydd, o siarad â swyddogion iaith o wahanol rannau o Gymru, yn peri rhwystredigaeth iddyn nhw eu hunain. Er enghraifft, fe soniwyd wrthyf i am yr enghraifft hon, sef os yw rhywun yn cwyno am wasanaeth awdurdod lleol, er enghraifft, mae'n rhaid i'r Comisiynydd yn gyntaf gynnal ymchwiliad i benderfynu pa un a fydd hi'n ymchwilio i hynny, ac mae Swyddfa'r Comisiynydd wastad yn gwneud hynny. Felly, mae hyn yn rhan ddiangen o'r broses; fe allen nhw fynd ati'n ddiymdroi i ymchwilio.402

Felly, gan fanteisio ar y profiad sydd gennym ni o'r ddeddfwriaeth hon, rwy'n credu bod llawer y gallwn ni ei wneud i ddefnyddio adnoddau yn fwy effeithlon ac i feithrin ewyllys da yn y broses, oherwydd nid oes unrhyw amheuaeth bod peth drwgdeimlad mewn awdurdodau lleol yn enwedig.403

Mae'r nifer o gwynion a gafwyd wedi fy nghalonogi. Bu nifer cymharol fach—151 o gwynion. O'r rhain, cafodd 124 eu hystyried i fod yn ddilys. Nawr, yr hyn nad ydym ni'n ei wybod, a'r hyn na allai'r comisiynydd ei ddweud wrth y comisiynydd diwylliant yn ddiweddar, yw beth oedd nifer yr achwynwyr. Mae'n ddigon posib y cafwyd 151 o gwynion, a hwyrach yn wir, wrth gwrs, y bu 151 o achwynwyr, ond, yn yr un modd, mae'n bosib y bu nifer llawer llai o achwynwyr yn gwneud cwynion niferus. Felly, byddai'n ddefnyddiol cael rhywfaint o eglurder ynglŷn â hynny. O'r cwynion hynny, mae un rhan o dair yn ymwneud â gwasanaethau dros y ffôn a gohebiaeth, a 32 o gwynion yn ymwneud â chyrsiau a gynigiwyd. Felly, nid yw hyn yn arwydd o ymchwydd enfawr o rwystredigaeth, er, wrth gwrs, fe ddylem ni eu cymryd o ddifrif. Felly, credaf fod hynny yn gadarnhaol.404 

Dim ond i ddweud ychydig mwy i orffen, Llywydd. Mae'r Comisiynydd ei hun yn gwneud y sylw mai yn y byd addysg y mae dyfodol cyflawni'r targed hwn, wrth gwrs, fwyaf hanfodol. Mae hi'n nodi bod pedwar o bob pum disgybl yn dysgu'r iaith yn yr ysgol, sydd, wrth gwrs, yn awgrymu nad yw 20 y cant o ddisgyblion yng Nghymru yn dysgu'r iaith yn yr ysgol. Mae hyn yng nghyd-destun y gyfraith a fu mewn grym ers dros genhedlaeth bod pob disgybl ysgol, o dan 16 oed, yn dysgu'r Gymraeg. Felly, rwy'n credu bod y ffigur hwn, a sonnir amdano wrth fynd heibio fel petai, yn hollol syfrdanol, i ddweud y gwir, o ystyried y cyd-destun, ac rwy'n credu y dylai fod yn destun dychryn inni. Nid yn unig nad yw'r Gymraeg yn cael ei dysgu i un o bob pum plentyn ysgol, ond nid yw ansawdd a darpariaeth y Gymraeg ymysg y rhai sydd yn dysgu Cymraeg fel ail iaith mewn ysgolion Cyfrwng Saesneg, sy'n amlwg yn dal i fod y mwyafrif sylweddol, mewn gwirionedd yn ddigon da mewn llawer o achosion. Mae'n rhywbeth y mae Estyn wedi ei grybwyll, a bydd y rheini ohonom ni sy'n ymweld ag ysgolion cyfrwng Saesneg yn ein hetholaethau yn ymwybodol iawn ohono: y mae, mewn llawer o achosion, yn esgus o ymdrech. Ac nid wyf yn orfeirniadol o ysgolion yn hyn o beth. Nid ydym ni'n datblygu'r sgiliau a'r amgylchedd lle mae digon o bwyslais yn cael ei roi ar hyn. Yn aml mae gennym ni athrawon nad ydy'n nhw'n gallu siarad unrhyw Gymraeg eu hunain yn dysgu Cymraeg i blant. Hyn, i mi, yw'r her i'r genhedlaeth hon os ydym ni am gyflawni'r her yr ydym ni wedi ei gosod i'n hunain.

Mae'r Comisiynydd yn dweud ei bod hi'n amlwg mai twf addysg cyfrwng Cymraeg—. Mae'n ddrwg gennyf, mae hi'n dweud na ddylai addysg cyfrwng Cymraeg fod yn ddim byd ond—. Ymddiheuriadau, mae hi'n dweud mai twf addysg cyfrwng Cymraeg yw'r ffordd amlwg ymlaen. Ond byddwn i'n dweud na ddylem ni fod yn gweld hyn yng nghyd-destun twf ysgolion cyfrwng Cymraeg yn unig, oherwydd mae hynny'n anwybyddu mwyafrif yr ysgolion y mae dyletswydd arnyn nhw, o dan y ddeddfwriaeth bresennol a'n polisïau presennol, i ddysgu plant i siarad Cymraeg fel iaith feunyddiol. Ar hyn o bryd nid yw hynny'n digwydd, a dyna lle yr hoffwn i weld ein pwyslais yn y cyfnod nesaf. Diolch.