Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Diolch. Credaf ei bod yn bwysig iawn inni gychwyn y ddadl hon ar anffurfio organau cenhedlu benywod drwy glywed lleisiau menywod yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol. Felly, rydym yn mynd i ddechrau drwy chwarae clip byr o'r ffilm o'r enw A Change has Begun, a charwn rybuddio'r Aelodau ei bod yn eithaf pwerus.