Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Ie, nid yw 'anffurfio organau cenhedlu' yn eiriau rydym yn sôn amdanynt yn aml yma yn y Siambr hon, ond mae'n hen bryd inni daflu goleuni ar y mater hynod ofidus hwn. Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i Julie Morgan, a thalu teyrnged iddi, mewn gwirionedd, am ei gwaith caled dros y blynyddoedd, a hefyd i Carl Sargeant, ond mwy am Carl mewn munud?
Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn galw anffurfio organau cenhedlu benywod yn farbaraidd. Geiriau eraill a ddefnyddiwyd yw 'creulon' ac fel y clywsom, mae'n 'anffurfio'. Nid oes unrhyw fudd o gwbl i iechyd merched a menywod, ac eto mae'n dal i gael ei gyflawni mewn sawl rhan o'r byd heddiw. Fel y clywsom mewn cyflwyniadau pwerus iawn y prynhawn yma, gall triniaethau achosi gwaedu difrifol, problemau wrinol rheolaidd gydol oes, heintiau lluosog, cymhlethdodau wrth esgor—dyna ble y gwelais fy achos cyntaf o anffurfio organau cenhedlu benywod flynyddoedd lawer yn ôl pan oeddwn yn gwneud obstetreg—a risg gynyddol o farwolaethau babanod newydd-anedig o ganlyniad. Nid gormodiaith yw dweud bod anffurfio organau cenhedlu benywod yn tramgwyddo'n llwyr yn erbyn hawliau dynol menywod a merched. Mae angen ailddatgan, fel y nodwyd, ei fod yn anghyfreithlon yn y wlad hon mewn gwirionedd ac mae wedi bod yn anghyfreithlon ers 32 mlynedd. Cam-drin ydyw, ac mae'n ffurf eithafol ar wahaniaethu yn erbyn menywod. Mae hyn oll wedi ei ddweud y prynhawn yma ac nid wyf ond yn ei ddweud er mwyn pwysleisio difrifoldeb y sefyllfa fel nad oes neb mewn unrhyw amheuaeth sut y mae'r Siambr hon yn teimlo am y driniaeth erchyll, greulon hon sy'n anffurfio.
Dechreuasom y prynhawn yma gyda Julie Morgan—cyflwyniad grymus iawn, ac yn amlwg roedd y cyflwyniad gweledol yn crynhoi'r holl fater yn llawer gwell, mewn gwirionedd, nag y gall llawer o eiriau. Ond mae arnom angen y geiriau yn ogystal ac mae angen inni godi ymwybyddiaeth yn y modd y gall dadl gan aelodau unigol fel hon ei wneud. Rydym wedi cael dadansoddiad cynhwysfawr o'r holl fater gwarthus hwn. Ac mae'n wir ein bod yn deall pa mor bwysig yw codi ymwybyddiaeth ymhlith y cymunedau dan sylw a phwysigrwydd addysg mewn ysgolion.
Cafodd yr un thema'n union ei pharhau gan Jenny Rathbone a hefyd gan Jane Hutt, a llongyfarchaf y ddwy ohonoch ar eich cyflwyniadau, yn enwedig yr hyn a ddywedodd Jane am ymwybyddiaeth mewn ysgolion a'r arwyddion rhybudd hynny, gan fod achosion o anffurfio organau cenhedlu yn dal i ymddangos yn boenus o ddiweddar mewn ysgolion, er ei fod yn parhau'n guddiedig oherwydd, fel y clywsom, mae merched yn mynd ar wyliau torri estynedig. Mae'n amlygu'r angen am ymateb trawslywodraethol, fel y soniodd Jane a Jenny, a phwysigrwydd cael gwared ar y wal o ddistawrwydd yn y cymunedau dan sylw. Ond rhaid inni gefnogi ac addysgu'r cymunedau lle mae'r driniaeth hon yn dal i fod yn endemig.
Hefyd llongyfarchaf Joyce Watson ar ei chyflwyniad y prynhawn yma ar bwysigrwydd siarad am fynd i'r afael â'r wal hon ddistawrwydd ym mhob man, waeth beth fo'r trallod a achosir, mae'n rhaid imi ddweud, ac fel roedd Joyce yn ei ddweud, rhesymeg wreig-gasaol a gwyrdroëdig parhau i gyflawni'r driniaeth hon. Ac mae Sefydliad Iechyd y Byd yn defnyddio iaith debyg.
Gan droi yn olaf at arweinydd y tŷ, Julie James, a gaf fi hefyd longyfarch Julie ar ei dyrchafiad a hefyd ar ei theyrnged bwerus i Carl Sargeant, sydd wedi gwneud gwaith aruthrol yn y maes hwn mewn perthynas â thrais yn erbyn menywod a sefydlu a helpu i sefydlu llawer o'r prosiectau a amlinellwyd mor gelfydd gan Julie James? Gan mai ymwneud â phŵer a rheolaeth dros ferched a menywod y mae hyn, ac mae hynny'n gwbl annerbyniol. Cefnogwch y cynnig. Diolch yn fawr.