Part of the debate – Senedd Cymru am 4:36 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Caethwasiaeth yw camfanteisio troseddol ar bobl, pa un a ydynt yn dod o'r tu allan i'r DU neu wedi eu magu yma. Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad hirsefydlog a chyson i frwydro yn erbyn caethwasiaeth a mynd i'r afael â'r dioddefaint y mae'n ei achosi i ddioddefwyr.
Roedd y cywair yn peri gofid eithriadol i mi, a pheth o'r—mae'n ddrwg gennyf ddweud—ystadegau gwneud a ddarllenwyd gan y person a gyflwynodd y ddadl fer hon. Hoffwn ei wahodd, os nad yw wedi gwneud hynny eisoes, i ymweld â charchar yn fy ardal, lle y caiff weld yn bendant nad yw'r rhan fwyaf o'r carcharorion yno'n dod o'r tu allan i'r DU. Ceir nifer fawr o faterion eraill sy'n codi ynglŷn â charcharu pobl, a dylai fod yn gyfarwydd iawn â hwy o ystyried ei gefndir.
Wrth gwrs, bydd mewnfudwyr ymhlith y rhai sy'n ymwneud â'r fasnach ddieflig hon, ond mae llawer iawn—[Torri ar draws.] Ni chewch ymyrryd mewn dadl fer.