Part of the debate – Senedd Cymru am 4:34 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Rwy'n hapus i gael munud yn y ddadl hon, ond nid wyf yn hapus o gwbl ynglŷn â'r ddadl; mae'r ddau beth yn gwbl ar wahân. Fel y gŵyr pawb, rwy'n gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar fasnachu mewn pobl neu atal caethwasiaeth, ac yn aelod sefydlol ohono. Rwy'n teimlo bod holl gywair yr hyn y bu'n rhaid i mi eistedd drwyddo a'i oddef yn gyfan gwbl atgas. Credaf y buasai wedi bod yn llawer gwell gwasanaethu anghenion y bobl y mae angen edrych ar eu hôl a'u diogelu pe na baem wedi bod yn canolbwyntio ar un set o gangiau troseddol, sef y mewnfudwr. Dyna sy'n rhedeg drwy hyn i gyd. Mae'n drueni, yn fy marn i, fod yr unigolyn a gyflwynodd hyn heb edrych mewn gwirionedd ar beth sydd wedi digwydd yma yng Nghymru o ran erlyniadau cyflawnwyr y drosedd hon a aned ym Mhrydain, pan oedd y dystiolaeth honno o dan ei drwyn, pe bai wedi trafferthu edrych amdani.