Part of the debate – Senedd Cymru am 4:37 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Nid wyf am fynd i mewn i'r ddadl honno, ond mae angen inni gael y drafodaeth honno mewn man arall.
Wrth gwrs, bydd mewnfudwyr yn rhan o'r fasnach atgas hon, ond ceir nifer fawr iawn o bobl eraill sy'n gysylltiedig â hi. Nid oes unrhyw angen o gwbl inni ddifrïo unrhyw gymuned o fewnfudwyr drwy ystyried bod y gair 'mewnfudwr' yn gyfystyr â'r gair 'gangfeistr', er enghraifft. Mae'n naratif hynod o hiliol ac mewn gwirionedd, y cyfan y mae'n ei wneud yw rhwystro ein gwaith i annog dioddefwyr i ddod ymlaen, fel y mae stigmateiddio pobl nad ydynt yn dod drwy'r llwybrau mewnfudo priodol mewn gwirionedd. Mae'r syniad fod gennym fewnfudo torfol direolaeth ar hyn o bryd yn nonsens, a dweud y gwir. Mae lefel mewnfudo yma yng Nghymru yn fach iawn, ac rwyf wedi cael profiad blaenorol o drafod hyn gyda'r Aelod penodol hwn.
Beth bynnag, dylai bwrw ymlaen â'r gwaith o fynd i'r afael â chaethwasiaeth fod yn flaenoriaeth, ni waeth o ble y daw'r troseddwyr. Mae caethwasiaeth yn cynnwys camfanteisio ar blant, camfanteisio rhywiol, camfanteisio ar lafur, camfanteisio troseddol ac yn wir, cynaeafu organau a meinweoedd dynol. Er bod y cyfrifoldeb ffurfiol dros atal y troseddau hyn heb ei ddatganoli, rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â chaethwasiaeth ac mae'n ymddangos yn gynyddol ein bod yn arwain y ffordd yn y DU drwy waith megis yr hyn a ddisgrifiodd Joyce Watson, sydd wedi gweithio'n ddiflino yn hyn o beth, fel y mae nifer o rai eraill.
Mae caethwasiaeth yn drosedd ddifrifol o dan Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015, ac mae'r dirwyon yn amrywio hyd at garchar am oes. O ystyried natur y drosedd hon, nid yw'r Swyddfa Gartref yn gallu cadarnhau gwir nifer y dioddefwyr; fodd bynnag, yn seiliedig ar ddata 2013, roedd prif swyddog gwyddonol y Swyddfa Gartref yn 2014 yn amcangyfrif bod rhwng 10,000 a 13,000 o ddioddefwyr yn cael eu hecsbloetio drwy ryw fath o gaethwasiaeth yn y DU. Yn gynharach eleni, dywedodd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol fod y nifer hon yn rhy isel ac y gallai'r nifer wirioneddol fod yn y cannoedd o filoedd. Atgyfeiriwyd dioddefwyr caethwasiaeth posibl at y mecanwaith atgyfeirio cenedlaethol yn y DU. Yn 2016, adroddodd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol fod bron i 4,000 o ddioddefwyr wedi cael eu hatgyfeirio yn y DU, bron i 3,500 o tu allan i'r DU. Roedd hyn yn cynnwys y 123 o ddioddefwyr masnachu pobl yng Nghymru, gyda 114 ohonynt yn dod o'r tu allan i'r DU. Nododd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol fod dros 2,500 o ddioddefwyr wedi eu hatgyfeirio yn ystod chwe mis cyntaf y flwyddyn hon, ac roedd hyn yn cynnwys 109 o atgyfeiriadau yng Nghymru. Ar lefel y DU, mae Tîm Rheoli Troseddu Cyfundrefnol yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn arwain camau gweithredu yn erbyn grwpiau troseddu cyfundrefnol. Mae'r Tîm Rheoli Troseddu Cyfundrefnol yn gweithio gyda'r heddlu ac asiantaethau eraill i gytuno ar flaenoriaethau ac i sicrhau y cymerir camau priodol yn erbyn gangiau a grwpiau troseddol.
Felly, beth rydym yn ei wneud yng Nghymru mewn gwirionedd? Rydym yn gwneud Cymru'n elyniaethus tuag at gaethwasiaeth. Rydym yn parhau i fod y wlad gyntaf a'r unig wlad yn y DU i benodi cydlynydd atal caethwasiaeth. Rydym wedi sefydlu grŵp arweinyddiaeth ar gaethwasiaeth yng Nghymru i ddarparu arweinyddiaeth strategol ac arweiniad ar sut i fynd i'r afael â chaethwasiaeth. Bydd y grŵp arweinyddiaeth yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi ar gynnydd yr agenda hon, ac rwy'n disgwyl cael y newyddion diweddaraf yn rheolaidd hefyd gan ein cydlynydd atal caethwasiaeth. Ond rydym yn cydnabod na all unrhyw un asiantaeth fynd ati'n effeithiol i drechu caethwasiaeth. Dyna pam y gweithiwn gydag amrywiaeth eang o bartneriaid, gan gynnwys yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, yr heddlu, a Llu Ffiniau'r DU. Rydym hefyd yn gweithio gyda Fisâu a Mewnfudo y DU, yr Awdurdod Gangfeistri a Cham-drin Llafur a chyda Gwasanaeth Erlyn y Goron. Yn ogystal, rydym yn gweithio gyda BAWSO a Barnardo's Cymru a fydd yn darparu cefnogaeth i ddioddefwyr y drosedd hon.
Rydym hefyd yn gweithio gyda phartneriaid i ddarparu cymorth i ffoaduriaid sy'n dod i Gymru, er mwyn helpu i leihau'r perygl o gamfanteisio. Rydym hefyd yn parhau i godi ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth. Yn 2016, cyflwynwyd yr hyfforddiant atal caethwasiaeth a ddatblygwyd gennym gyda phartneriaid i dros 5,500 o bobl yng Nghymru ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Gyda'n partneriaid, rydym yn parhau i ddarparu'r hyfforddiant hwn, ac mae tua 5,000 o bobl eisoes wedi elwa hyd yma eleni.
Mae caethwasiaeth yn drosedd gymhleth i'w hymchwilio a'i herlyn; dyna pam rydym wedi gweithio gyda'n partneriaid i ddatblygu hyfforddiant ar y cyd ar gyfer uwch-swyddogion ymchwilio ac erlynwyr y Goron. Dyma'r cwrs hyfforddiant cyntaf o'i fath yng Nghymru a'r DU. Ym mis Mawrth eleni, lansiwyd y cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi. Ei nod yw gwneud cadwyni cyflenwi'n dryloyw ac atal camfanteisio ar weithwyr, sy'n cynnwys gweithwyr mudol. Dyma'r tro cyntaf i hyn hefyd ddigwydd yng Nghymru a'r DU.
Rydym yn rhannu'r gwersi a ddysgwyd yng Nghymru gyda phartneriaid eraill, gan gynnwys adrannau Llywodraeth y DU, a chyda Chomisiynydd Atal Caethwasiaeth Annibynnol y DU. Yn wir, mae ein gwaith yng Nghymru yn dechrau ennill cydnabyddiaeth ryngwladol o ddifrif. Tan yn ddiweddar, roedd caethwasiaeth yn drosedd gudd a gwyddom nad oes digon o adrodd yn ei chylch o hyd. Dyna pam rydym wedi cyflwyno systemau casglu data newydd yng Nghymru. Rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ddatblygu sylfaen dystiolaeth well a fydd yn adlewyrchu lefel caethwasiaeth yng Nghymru yn fwy cywir. Disgwylir i'n gwaith ar y cyd i godi ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth arwain at gynnydd yn nifer yr achosion a gofnodir. Drwy adrodd gwell gallwn helpu i sicrhau bod dioddefwyr yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt ac y gellir dwyn cyflawnwyr y drosedd ffiaidd hon o flaen eu gwell, ac nid drwy droseddoli'r bobl sy'n ddioddefwyr eu hunain.
Rydym yn parhau'n ymrwymedig i fynd i'r afael â chaethwasiaeth, rydym yn parhau'n ymrwymedig i gefnogi dioddefwyr, ac rydym yn parhau'n gwbl ymrwymedig i wneud Cymru'n elyniaethus tuag at gaethwasiaeth. Ni all rhethreg wag am fewnfudo wneud dim ond niweidio'r gwaith pwysig hwnnw, tra'n bod ni yn Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd yn bwrw ymlaen â'r gwaith.