Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Diolch yn fawr, Mark. Daeth ymgynghoriad 14 wythnos ar gynigion i gryfhau’r cod trefniadaeth ysgolion mewn perthynas â rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig i ben ar 30 Medi. Rydym yn y broses o ddadansoddi ymatebion i'r ymgynghoriad ar hyn o bryd. Ein nod yw cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion cyn diwedd y flwyddyn hon.