Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Iawn, diolch. Nid yw Lefel 5 yn gymhwyster ond mae'n statws. Nid yw'n arwain at unrhyw gynnydd yn y cyflog. Gall cynorthwywyr addysgu Lefel 1 ei gyflawni—daw hyn oll gan gynorthwyydd addysgu sydd wedi mynegi pryderon wrthyf. Chwe wythnos yn unig y mae'r hyfforddiant yn ei gymryd—tri diwrnod yn unig allan o'r ysgol. Un darn o waith yn unig sydd angen ei baratoi ar gyfer plentyn, grŵp neu ddosbarth. Y cymhwyster sydd arnoch ei angen er mwyn ei wneud yw un TGAU mewn mathemateg neu Saesneg. Mewn gwirionedd, rwy'n credu ei bod yn enghraifft arall o ddefnyddio addysg fel peiriant arian i dalu am gymwysterau diystyr nad ydynt hyd yn oed yn gymwysterau yn yr achos hwn, sy'n golygu y gall staff nad ydynt yn addysgu ymgymryd â mwy o gyfrifoldebau heb gyflog ychwanegol. Y cwestiwn wrth wraidd hyn oll, ar ran yr aelodau o staff a gysylltodd â mi, yw hyn: sut y mae'r cogio hwn o unrhyw ddefnydd o gwbl o ran codi safonau?