Recriwtio Athrawon

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 15 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 2:10, 15 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Joyce. Rydym yn gweithio gyda'r sector ar hyn o bryd i hyrwyddo'r proffesiwn, fel y dywedais, yn ogystal â'n cynllun cymhelliant ar gyfer y pynciau blaenoriaethol, sydd ar gael i fyfyrwyr cymwys yn awr. Bydd fy nghyhoeddiad diweddar ynglŷn â diwygiadau i'r cynllun, fel cynnwys cyfrifiadureg yn brif flaenoriaeth, ar gael i fyfyrwyr cymwys o fis Medi 2018. Rydym hefyd yn gweithio i lansio ymgyrch recriwtio genedlaethol. Rydym wedi cael cryn lwyddiant fel Llywodraeth gyda'r cynllun 'Hyfforddi/Gweithio/Byw' a gyflwynwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd ar gyfer meddygon a nyrsys, ac rydym yn awyddus i adeiladu ar y brand Cymreig hwnnw ac agweddau eraill ar wasanaeth cyhoeddus i recriwtio'r gorau i'r proffesiwn addysgu.