Athrawon Cyflenwi

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 15 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 1:34, 15 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, gofynnais y cwestiwn heb fod ymhell yn ôl, ac mewn gwirionedd, air am air, mae Leanne Wood wedi gofyn y cwestiwn yn yr un ffordd, ond rwy'n dal i fod am ychwanegu fy nghwestiwn. Mae cyflogi athrawon cyflenwi drwy asiantaethau wedi arwain at dâl is a thelerau ac amodau gwael. Am hynny rydym yn sôn yma—telerau ac amodau athrawon cyflenwi. Mae etholwr yng Nghasnewydd wedi dwyn pryderon i fy sylw yn ddiweddar iawn ynglŷn â'r ffaith nad ydynt ond yn cael £95 punt yn unig yn hytrach na £140 y dydd, gan fod gweddill yr arian yn mynd i'r asiantaeth sy'n cyflenwi'r athro. Ni chredaf mai dyna'r peth iawn i'w wneud, Gweinidog. Mae llawer o gydweithwyr fy etholwr yn ystyried gadael y proffesiwn yn gyfan gwbl ac maent yn awyddus i wybod pam nad oes gan Gymru—mae Leanne newydd grybwyll yr un peth—system gofrestru ganolog fel sydd ganddynt yng ngwledydd datganoledig eraill y Deyrnas Unedig, fel y gallwn gadw ein hathrawon hynod dalentog ac ymroddedig yn yr ysgolion. Diolch.