Hyfforddiant Statws Lefel 5

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 15 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 2:03, 15 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, rydych wedi bod yn y swydd bellach ers oddeutu 18 mis. Beth yw eich asesiad o'r capasiti yn y system addysg i athrawon a chynorthwywyr addysgu allu ymgymryd â'r hyfforddiant sydd ei angen arnynt ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus ac yn benodol er mwyn codi safonau? Mae cyflwyno'ch dogfen bolisi a dyrannu adnoddau i hynny yn un peth, mater arall ar wahân yw capasiti'r system i allu creu'r amser a'r lle ar gyfer ymgymryd â'r hyfforddiant hwnnw. Hoffwn glywed beth yw eich barn bellach, ar ôl 18 mis yn y swydd, ynglŷn â gallu'r system addysg yma yng Nghymru i ddarparu'r cyfleoedd hyfforddi hynny, ar gyfer cynorthwywyr addysgu ond ar gyfer athrawon proffesiynol hefyd.