Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Diolch yn fawr iawn, Joyce. Rydym yn awyddus i addysgu, fel y dywedais wrth Caroline yn gynharach, fod yn broffesiwn dewis cyntaf fel y gallwn ddenu'r goreuon i ysgolion Cymru. Yn ogystal â'n cymelliadau, rydym yn gweithio gyda'r sector i fynd ati'n weithredol i hyrwyddo addysgu, er mwyn recriwtio'r unigolion gorau a mwyaf disglair i'r proffesiwn.